Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Taflen Glawr Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) ac Pwyllgor 2022/23

CYFRINACHOL IAWN / CYFRINACHOL / HEB FOD YN GYFRINACHOL                                                            Rhif y Papur

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol / Enw'r Pwyllgor

Rhowch naill ai Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) a'r dyddiad neu enw’r Pwyllgor a’r dyddiad

Teitl y ddogfen:

Teitl – templed tudalen glawr (diweddarwyd Awst 2022)

Awdur(on):

Ms Jo Bloggs, Ysgol/ Adran/Is-adran

Noddwr UEB neu Gyflwynydd/wyr yn y Pwyllgor os yw'n wahanol:

Yr Athro ABC, PVC XYZ

Gwnewch yn siŵr fod y cyflwynydd yn ymwybodol y bydd yn cyflwyno'r eitem hon i'r Pwyllgor.

Dosbarthiad y Papur:

CYFRINACHOL IAWN (C1) / CYFRINACHOL (C2) / DDIM YN GYFRINACHOL

Dilëer fel sy'n briodol. Y noddwr i awgrymu dosbarthiad y papur, i'w gadarnhau gan y UEB. Gweler Polisi Cyhoeddi am ddiffiniadau a pholisi datgelu.

Math o bapur:

Naill ai:

I’w Benderfynu

neu

I'w Drafod/Nodi

Gwiriwyd gan Weithiwr Proffesiynol Data Caerdydd:

Do/Naddo/Amherthnasol gan nad oes data (dilëwch fel sy'n berthnasol)

Cadarnhewch a yw'r data yn y papur hwn wedi'i ddilysu gan Weithwyr Proffesiynol Caerdydd ym Maes Data a bod cadarnhad o adolygiad gan gymheiriaid wedi'i gynnwys.

I roi gwybod am y Canlyniad:

Dylai’r adran hon gynnwys enwau a rolau’r bobl y dylid eu hysbysu o ganlyniad i ystyriaeth y Bwrdd, a/neu’r Pwyllgor nad ydynt fel arall yn rhan o’r Bwrdd Gweithredol/ Pwyllgor sy’n ystyried y papur.

Os gadewir yr adran hon yn wag ni fydd yn cael ei phoblogi a chymerir yn ganiataol nad oes unrhyw ofyniad i hysbysu unigolion am ganlyniad y cyfarfod.

Crynodeb:

Rhowch grynodeb byr o'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar y Bwrdd/ Pwyllgor er mwyn deall y materion sy'n cael sylw (penawdau), gan gynnwys unrhyw risgiau posibl i enw da'r Brifysgol yn ogystal â'r manteision.  Dylai hwn fod yn ddigon cryno a chyda digon o esboniad i ffurfio'r cofnodion.

Perthynas â’r Ffordd Ymlaen:

Dangos sut mae hyn yn cysylltu â chyflawni’r pum Ffactor Llwyddiant Hanfodol (iechyd a lles ein staff a’n myfyrwyr; cynaliadwyedd ariannol; boddhad a phrofiad myfyrwyr; grantiau a chontractau ymchwil; cenhadaeth ddinesig a’n cyfraniad at achub, adfywio, adnewyddu) a /neu'r DPA.

Ffocws ar Fyfyrwyr

Os yw eich papur yn ymwneud â chynnig neu bolisi, rhowch grynodeb o sut y bydd yn cefnogi a/neu’n gwella profiad y myfyrwyr/bywyd y myfyrwyr.

Goblygiadau Adnoddau:

Beth yw’r goblygiadau o ran adnoddau (gan gynnwys goblygiadau ariannol) gwneud/peidio â gwneud? Os yw'r papur yn cynnwys cais am gyllid, nodwch o ba linell gyllideb y caiff ei ariannu.

Risg a Sicrwydd:

Os mai pwrpas y papur yw rhoi sicrwydd yn erbyn gofyniad am gydymffurfio, nodwch hyn yn benodol.

Nodi:

  • Unrhyw gysylltiadau â risgiau ar y gofrestr risg   sefydliadol a sut yr effeithir ar y risg;
  • Unrhyw gysylltiadau â risgiau ar gofrestr risg arall   (e.e. gweithredol, adrannol) a sut mae’n berthnasol i’r risgiau hynny;
  • Os yw'r papur hwn yn tynnu sylw at unrhyw risgiau neu   gyfleoedd newydd i'r Brifysgol eu hystyried;
  • Beth yw'r risgiau os na chytunir ar y camau a gynigir   yn y papur hwn a'u cymeradwyo.

I gael arweiniad ar reoli risg, cysylltwch â'r Uwch-gynghorydd Risg

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:

Os yw'r papur hwn yn adroddiad ar newid mewn Polisi neu Ymarfer, mae'n ofyniad cyfreithiol i gynnal Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA). Mae templed a chanllawiau ar gyfer AEC ar gael yma; cadarnhewch fod hyn wedi'i wneud ac atodwch gopi i'r papur hwn. Os nad yw hyn yn newid Polisi neu Ymarfer, nodwch unrhyw effaith adnabyddadwy (andwyol neu gadarnhaol) ar grwpiau sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig pe bai eich argymhelliad/ion yn cael eu derbyn neu eu gwrthod.

Datblygu Cynaliadwy:

Os oes gan y papur hwn y potensial i effeithio ar ein gwaith Argyfwng Hinsawdd sy'n ymwneud â chwmpas 1, 2 a 3 allyriadau carbon, rhowch fanylion effeithiau'r gwaith ac, fel y bo'n briodol, y mesurau lliniaru arfaethedig. Ar gyfer materion sy'n ymwneud ag Argyfwng yr Hinsawdd, Cynaliadwyedd Amgylcheddol a thu hwnt, amlinellwch y gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a'r materion sy'n codi o'r cynnig, gan gynnwys pa un o'r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig y mae'n mynd i'r afael â hwy -https://sustainabledevelopment.un.org/

Llwybr y Pwyllgor:

Os oes angen i'r papur hwn fynd o'r Bwrdd i Bwyllgor Prifysgol gan fod angen lefel uwch o gymeradwyaeth, nodwch y Pwyllgor a'r dyddiad y dylid ei gyflwyno yn y tabl isod. Dilëer rhesi fel y bo'n briodol.

Os ydych yn cyflwyno'r papur hwn i Bwyllgorau cwblhewch y llinell gyntaf

Dyddiad Cyfarfod y Pwyllgor

Pwyllgor

Cyflwynir ar gyfer

Canlyniad

Rhowch y dyddiad

Rhif papur UEB Bwrdd Gweithredol y Brifysgol

  

Rhowch y dyddiad

Enw'r Pwyllgor

Nodi / Trafod / Argymell /Cymeradwyo

Mewnosod canlyniad

Rhowch y dyddiad

Enw'r Pwyllgor

Nodi / Trafod / Argymell /Cymeradwyo

Mewnosod canlyniad

Rhowch y dyddiad

Enw'r Pwyllgor

Nodi / Trafod / Argymell /Cymeradwyo

Mewnosod canlyniad

Gofynnir i’r Bwrdd/Pwyllgor/Senedd/Cyngor [dilëer fel y bo’n briodol]:

  1. ARGYMELL... [y cynigion penodol a gynhwysir   yn y papur] i [y Cyngor neu bwyllgor arall fel y bo'n berthnasol] i'w   cymeradwyo.

neu

  1. CYMERADWYO... [y cynigion penodol a   gynhwysir yn y papur] DS: Mae’n rhaid i’r Bwrdd/Pwyllgor fod â’r awdurdod i   wneud hyn (gwiriwch â Swyddfa’r Is-Ganghellor am gyngor ar y Bwrdd neu’r Tîm   Llywodraethu Corfforaethol am gyngor ar bwyllgorau os nad ydych yn siŵr)

neu

  1. TRAFOD…[y neges allweddol sydd yn y papur]   DS nid oes angen penderfyniad gan y Bwrdd/y Pwyllgor ond gwahoddir y Bwrdd/y   Bwrdd i roi adborth

neu

  1. NODI…[y neges allweddol yn y papur] DS nid   oes angen penderfyniad gan y Bwrdd/y Pwyllgor ac mae'r papur er gwybodaeth yn   unig