Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Yr Ystatudau

Statudau

Statud I – Dehongliad A Chyffredinol

1.  Bydd y Statudau hyn yn cael eu darllen ar y cyd â'r Siarter, ac yn amodol ar y Siarter, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, bydd gan y geiriau a'r ymadroddion sy'n cael eu defnyddio yn y Siarter yr un ystyr yn y Statudau hyn.

2.  Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Statudau hyn:
(1) mae "Staff Academaidd" yn golygu staff academaidd Prifysgol Caerdydd a bydd yn cynnwys categorïau gweithwyr neu weithwyr unigol eraill, fel sy'n cael ei bennu gan y Cyngor o bryd i'w gilydd;
(2) mae "y Siarter" yn golygu Siarter Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys unrhyw Siarter Atodol) fel sy'n cael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd;
(3) mae "Cyngor" yn golygu Cyngor Prifysgol Caerdydd;
(4) mae "Swyddogaethau" yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;
(5) mae "Swyddogion" yn golygu y Canghellor, y Rhag-Gangellorion, Cadeirydd y Cyngor, y Llywydd a'r Is-Ganghellor a phob unigolyn sy'n dal swydd ddynodedig o ganlyniad i benderfyniad y Cyngor, ym Mhrifysgol Caerdydd;
(6) mae "Rhag Is-Ganghellor" yn golygu unrhyw aelod o Brifysgol Caerdydd sydd wedi'i benodi gan y Cyngor i swydd Rhag Is-Ganghellor;
(7) mae "Senedd" yn golygu Senedd Prifysgol Caerdydd;
(8) mae "Aelod" yn golygu unrhyw aelod o Brifysgol Caerdydd fel sydd wedi'i nodi yn Statud II;
(9) mae "Aelod Lleyg" yn golygu aelod o'r Cyngor neu bwyllgor arall sydd ddim yn gyflogai nac yn Fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd;
(10) mae "Myfyriwr" yn golygu unrhyw berson sydd wedi cofrestru ar raglen astudio sy'n cael ei gynnig gan Brifysgol Caerdydd fel ymgeisydd ar gyfer gradd, diploma, tystysgrif neu wobr arall ym Mhrifysgol Caerdydd, prifysgolion eraill a chyrff dyfarnu eraill, a bydd yn cynnwys swyddogion etholedig Undeb y Myfyrwyr;
(11) mae "Ordinhad" yn golygu Ordinhad wedi'i wneud gan benderfyniad y Cyngor yn unol â'r Siarter a'r Statudau hyn;
(12) mae "Rheoliadau" yn golygu Rheoliadau wedi'u gwneud gan y Cyngor neu gan y Senedd yn unol â'r Siarter a'r Statudau hyn;  
(13) mae "Rheolau Sefydlog" yn golygu Rheolau Sefydlog sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor mewn perthynas â'r weithdrefn ar gyfer cynnal cyfarfodydd y Cyngor, y Llys a'r Senedd neu eu pwyllgorau;
(14) bydd geiriau unigol yn cynnwys y lluosog, ac i'r gwrthwyneb.

3. Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, bydd gan y geiriau sy'n cael eu diffinio yn y Siarter neu yn y Statudau hyn yr un ystyr yn yr Ordinhadau ac yn y Rheoliadau.

4. Gallai unrhyw gorff wedi'i sefydlu gan y Siarter neu gan y Statudau hyn weithredu er gwaethaf lle gwag yn ei aelodaeth, ac ni fydd gweithgarwch corff o'r fath yn annilys oherwydd unrhyw ddiffyg cymhwyster neu annilysrwydd wrth ethol, penodi, enwebu neu ddethol unrhyw aelod, waeth yn bresennol neu'n absennol.

5. Ni fydd cyfarfod unrhyw gorff sydd wedi'i sefydlu gan y Siarter neu gan y Statudau hyn yn annilys oherwydd unrhyw fethiant i roi hysbysiad am gyfarfod o'r fath i unrhyw berson sydd â hawl, o dan y Siarter neu'r Statudau hyn, i dderbyn hysbysiad o'r fath.

6. Bydd cyfeiriad at unrhyw swydd neu gorff yn y Siarter neu'r Statudau hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw swydd neu gorff dilynol.

7. Yn amodol ar y Siarter a'r Statudau hyn, bydd y pŵer i ddirprwyo fel sydd wedi'i bennu yn yr Ordinhadau.

Statud II – Aelodaeth

1.  Bydd Aelodau Prifysgol Caerdydd fel sydd wedi'i bennu yn yr Ordinhadau.

Statud III – Y Canghellor A'r Rhag-Gangellorion

1. Bydd y dull penodi, amser yn y swydd, a swyddogaethau y Canghellor a'r Rhag-Gangellorion fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau.

Statud IV – Cadeirydd Y Cyngor

1. Bydd Cadeirydd y Cyngor yn cael ei benodi gan y Cyngor a bydd yn dal y swydd am gyfnod fel sydd wedi'i ddiffinio yn yr Ordinhadau.

Statud V – Y Llywydd A’r Is-Ganghellor

1.
(1)  Bydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn cael eu penodi gan y Cyngor am gyfnod ac, yn amodol ar y Siarter a'r Statudau hyn, ar delerau fel sy'n cael eu pennu gan y Cyngor.
(2) Bydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn cael eu penodi gan y Cyngor yn unol â'r Ordinhadau.

2. Bydd gan y Llywydd a’r Is-Ganghellor gyfrifoldeb cyffredinol i’r Cyngor dros reoli Prifysgol Caerdydd, gwneud yn siŵr bod ei hamcanion yn cael eu cyflawni, ac am gynnal a hybu ei heffeithlonrwydd a'i threfn dda.

3. Bydd gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor bŵer, yn unol â'r Rheoliadau fydd yn darparu ar gyfer yr hawl i wneud cynrychioliadau, i ohirio cofrestriad unrhyw Fyfyriwr neu i atal cyflogaeth unrhyw gyflogai ym Mhrifysgol Caerdydd dros dro, ac i wahardd unrhyw Fyfyriwr neu gyflogai o'r fath rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau Prifysgol Caerdydd a rhag cael mynediad at unrhyw eiddo sy'n berchen i neu sy'n cael ei brydlesu neu ei ddefnyddio am y tro gan Brifysgol Caerdydd.

4. Bydd swyddogaethau a chyfrifoldebau y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn cael eu nodi yn yr Ordinhadau.

5. Yn amodol ar ddarpariaethau'r Siarter a gallu'r Cyngor i gyfyngu ar bŵer y Llywydd a'r Is-Ganghellor, gall enwebu dirprwy neu ddirprwyon, gan ddirprwyo unrhyw swyddogaethau i berson(au) o'r fath, gan gynnwys y pŵer i ddirprwyo ymhellach.  Gallai'r Llywydd a'r Is-Ganghellor dynnu dirprwyaeth o'r fath yn ôl unrhyw bryd.

6. Os bydd y Llywydd a’r Is-Ganghellor yn absennol neu os bydd swyddi'r Llywydd a’r Is-Ganghellor yn wag, a bod hynny'n debygol o barhau am gyfnod o dri mis neu ragor, bydd y Cyngor yn penodi Llywydd ac Is-Ganghellor dros dro drwy broses sy'n cael ei ddiffinio yn yr Ordinhadau.  Ni fydd y pŵer hwn i benodi yn cael ei ddirprwyo i Gadeirydd y Cyngor.

Statud VI

Mae'r Statud hon yn cael ei gadael yn wag yn fwriadol.

Statud VII – Y Cyngor

1. Bydd aelodau'r Cyngor a thelerau eu penodiad yn unol â'r hyn sy'n cael ei nodi yn yr Ordinhadau.

2. Yn amodol ar ddarpariaethau'r Siarter a'r Statudau hyn, yn ogystal â'r holl bwerau eraill sydd ganddo, bydd gan y Cyngor y pwerau i wneud y canlynol:
(1) penodi Cadeirydd fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau;
(2) penodi'r Canghellor a'r Rhag-Gangellorion fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau.

3. Fel prif awdurdod Prifysgol Caerdydd, bydd y Cyngor yn gyfrifol am reoli a chynnal pob agwedd ar fusnes Prifysgol Caerdydd yn effeithlon, gan gynnwys ei harian a'i heiddo.

4. Yn amodol ar ddarpariaethau'r Siarter, bydd y Cyngor yn gwneud y swyddogaethau canlynol ar yr amod y bydd y Cyngor, ym mhob mater sydd â goblygiadau academaidd fel sy'n cael ei nodi yn yr Ordinhadau, ddim ond yn gweithredu ar ôl i'r Senedd gael cyfle i ystyried materion o'r fath a rhoi gwybod amdanynt i'r Cyngor:
(1) darparu cyrsiau cyfarwyddyd a chyfleusterau ymchwil yn unol ag amcanion Prifysgol Caerdydd ac i bennu ac olrhain y ffioedd a'r costau eraill sydd i'w talu gan Fyfyrwyr;  
(2) gwobrwyo graddau, diplomâu, tystysgrifau a gwobrwyon tebyg eraill, a allai fod yn unigol, yn ddeuol, ar y cyd, yn anrhydeddus neu fel arall, gan Brifysgol Caerdydd, ac am reswm da fel sy'n cael ei ddiffinio yn yr Ordinhadau, atal person rhag ennill gradd, diploma, tystysgrif neu wobr tebyg ym Mhrifysgol Caerdydd;
(3) pennu dyddiadau pob semester a phenodiad a thâl arholwyr allanol ar gyfer graddau, diplomâu, tystysgrifau a gwobrwyon tebyg ym Mhrifysgol Caerdydd;
(4) darparu adeiladau, lleoliadau, dodrefn ac offer priodol, yn ogystal ag unrhyw adnoddau eraill sydd eu hangen i gynnal gwaith Prifysgol Caerdydd;

(5)  pennu yn unol â'r Ordinhadau, neu'r Rheoliadau, neu fel arall, yr amodau sy'n berthnasol â:

  • (i)  graddau, diplomâu a thystysgrifau Prifysgol Caerdydd a'r arholiadau sy'n gysylltiedig â nhw;
  • (ii) sefydlu ysgoloriaethau, arddangosfeydd, bwrsariaethau, gwobrwyon a chymhorthau astudio ac ymchwilio eraill, a chymeradwyo Rheoliadau sy'n ymwneud â thelerau eu gwobrwyo;

(6) llywodraethu, rheoli a rheoleiddio materion ariannol, cyfrifon, buddsoddiadau, eiddo, busnes a phob un o faterion Prifysgol Caerdydd, ac at y dibenion hyn, meddu ar bwerau sy'n angenrheidiol, gan gynnwys y pŵer i benodi bancwyr, archwilwyr ac unrhyw swyddogion neu asiantiaid eraill y mae'n ei ystyried yn briodol eu penodi;
(7) yn amodol ar y Siarter ac ar y Statudau hyn, pennu dull penodi a thelerau penodi pob un o gyflogeion Prifysgol Caerdydd;
(8) penodi aelodau o'r Staff Academaidd i fod yn benaethiaid prif gyrff academaidd a gweinyddol fel y pennir gan y Cyngor yn unol â Statud IX, drwy broses syn cael ei diffinio yn yr Ordinhadau;
(9) rhoi i unrhyw berson y teitl Athro, Darllenydd neu unrhyw deitl arall yn ôl dymuniad y Cyngor o bryd i'w gilydd, ac yn unol â'r Ordinhadau a rheoliadau eraill a phenodi pobl i swyddi o'r fath;
(10) cymeradwyo cynlluniau pensiwn neu drefniadau eraill ar gyfer cyflogeion ac amodau aelodaeth cynlluniau o'r fath.

5.
(1)  Bydd gan y Cyngor y pŵer i sefydlu a diddymu pwyllgorau, byrddau, paneli ymgynghori a chyrff cynghori o'r fath, yn unol â thelerau a swyddogaethau y bydd yn penderfynu arnynt o bryd i'w gilydd;  
(2) Gallai'r Cyngor ymuno â'r Senedd i sefydlu a diddymu pwyllgorau neu gyrff eraill;
(3) Gallai'r Cyngor roi neu wrthod y pŵer i gyfethol aelodau a sefydlu isbwyllgorau, i unrhyw bwyllgor neu gorff arall o'r fath;
(4) Gallai'r Cyngor benderfynu bod aelodaeth unrhyw bwyllgor neu gorff arall o'r fath (neu yn achos cydbwyllgor, yr aelodau sydd i'w penodi gan y Cyngor) yn cynnwys aelodau parod o'r Cyngor yn unig, neu na fydd yn cael ei gyfyngu fel hynny.

6. Yn amodol ar y Siarter ac ar y Statudau hyn, gallai'r Cyngor ddirprwyo, o dan y fath amgylchiadau ag y mae'n penderfynu arnynt o bryd i'w gilydd, unrhyw rai o'i bwerau a'i ddyletswyddau i unrhyw bwyllgorau neu fyrddau wedi'u sefydlu gan y Cyngor, cydbwyllgorau'r Cyngor a'r Senedd, Llywydd ac Is-Ganghellor neu Swyddogion Prifysgol Caerdydd, gyda neu heb bŵer pellach i ddirprwyo i is-gorff neu berson.

Statud VIII – Y Senedd

1. Bydd aelodau'r Senedd a thelerau eu penodiad yn unol â'r hyn sy'n cael ei nodi yn yr Ordinhadau.

2. Yn amodol ar y Siarter a'r Statudau hyn, bydd y Senedd yn cadw polisi addysgol Prifysgol Caerdydd o dan adolygiad o byd i'w gilydd, yn ogystal â hyrwyddo amcanion a gwneud argymhellion priodol i'r Cyngor.

3. Yn amodol ar y Siarter a'r Statudau hyn, bydd swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Senedd yn unol â'r hyn sy'n cael ei nodi yn yr Ordinhadau.

4.    Bydd gan y Senedd y pŵer i wneud Rheoliadau mewn perthynas ag unrhyw faterion y mae'n gyfrifol amdanynt, fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau.

5.
(1) Gallai'r Senedd sefydlu a diddymu pwyllgorau, byrddau, paneli ymgynghorol a chyrff cynghori a gallai ymuno â'r Cyngor i sefydlu a diddymu unrhyw bwyllgorau a chyrff eraill o'r fath;
(2) Gallai'r Senedd roi neu wrthod y pŵer i gyfethol aelodau a sefydlu isbwyllgorau, i unrhyw bwyllgor neu gorff arall o'r fath;
(3) Gallai'r Senedd benderfynu bod aelodaeth unrhyw bwyllgor neu gorff arall o'r fath (neu yn achos cydbwyllgor, yr aelodau sydd i'w penodi gan y Senedd) yn cynnwys aelodau parod o'r Senedd yn unig, neu na fydd yn cael ei gyfyngu fel hynny.

6. Yn amodol ar y Siarter ac ar y Statudau hyn, gallai'r Senedd ddirprwyo, o dan y fath amgylchiadau ag y mae'n penderfynu arnynt o bryd i'w gilydd, unrhyw rai o'i bwerau a'i ddyletswyddau i unrhyw bwyllgorau neu fyrddau wedi'u sefydlu gan y Senedd, cydbwyllgorau'r Senedd a'r Cyngor, Llywydd ac Is-Ganghellor neu Swyddogion Prifysgol Caerdydd, gyda neu heb bŵer pellach i ddirprwyo i is-gorff neu berson.


Statud IX – Prif Gyrff Academaidd

1. Bydd prif unedau academaidd a gweinyddol o'r fath ag y bydd y Cyngor, ar ôl ymgynghori â'r Senedd, yn penderfynu arnynt o bryd i'w gilydd, a gydag aelodaeth a swyddogaethau fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau.

Statud X – Meysydd Busnes A Gedwir Yn Ôl

1. Bydd y gofynion i dynnu yn ôl aelodau unrhyw gorff neu bwyllgor sydd wedi'i sefydlu gan neu o dan y Siarter neu'r Statudau hyn pan mae meysydd busnes a gedwir yn ôl o dan ystyriaeth, fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau.

Statud XI – Gwarchodaeth A Defnydd O'r Sêl Gyffredin

1. Bydd Sêl Gyffredin Prifysgol Caerdydd o dan warchodaeth person sydd wedi cael cyfarwyddyd gan y Cyngor, ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio ar unrhyw ddogfen oni bai bod y Cyngor wedi awdurdodi hynny.

2. Bydd y broses o ddefnyddio, awdurdodi defnydd a rhoi gwybod am ddefnydd o Sêl Gyffredin Prifysgol Caerdydd yn y modd sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau.

Statud XII – Ordinhadau A Rheoliadau

1.
(1) Yn amodol ar y Siarter a'r Statudau hyn, gallai'r Cyngor wneud, amrywio neu ddiddymu Ordinhadau mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n gysylltiedig â phrosesau llywodraethu a gweinyddu Prifysgol Caerdydd.  
(2) Gallai Ordinhadau gael eu gwneud drwy benderfyniad sy'n cael ei basio gan fwyafrif o ddau draean o'r rheini sy'n bresennol ac yn pleidleisio yn un o gyfarfodydd y Cyngor.  
(3) Heb ragfarn tuag at ddarpariaethau'r Siarter, ni fydd unrhyw Ordinhad yn cael ei wneud gan y Cyngor mewn perthynas ag unrhyw fater sydd â goblygiadau academaidd, fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau, nes bod ymgynghoriad wedi bod â'r Senedd, a bod safbwyntiau'r Senedd wedi'u hystyried yn llawn gan y Cyngor.  
(4) Gallai Ordinhad wneud cyfarwyddyd y bydd unrhyw fater y mae'n gwneud darpariaethau ar ei gyfer yn amodol ar ddarpariaeth bellach gan Reoliadau neu Reolau Sefydlog.

2.
(1) Yn amodol ar y Siarter a'r Statudau hyn, gallai'r Cyngor wneud, amrywio neu ddiddymu Rheoliadau mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n gysylltiedig â phrosesau llywodraethu a gweinyddu Prifysgol Caerdydd.
(2) Gallai'r Senedd wneud, amrywio neu ddiddymu Rheoliadau mewn perthynas ag unrhyw fater o fewn ei gyfrifoldebau fel sydd wedi'i nodi yn y Siarter, y Statudau hyn a'r Ordinhadau.

Statud XIII – Undeb Y Myfyrwyr

1. Yn unol â dibenion addysgiadol Prifysgol Caerdydd, bydd Undeb y Myfyrwyr ar gael er budd y Myfyrwyr.

2.
(1) Bydd cyfansoddiad Undeb y Myfyrwyr yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cyngor fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau;
(2) Bydd swyddogaethau a breintiau Undeb y Myfyrwyr a materion eraill sy'n ymwneud â'r Undeb yn cael eu nodi yn yr Ordinhadau.  Yn amodol ar ddarpariaethau Ordinhadau o'r fath, bydd gan Undeb y Myfyrwyr y pŵer i reoli ei faterion a'i arian ei hun;
(3) Gallai Ordinhad sydd wedi'i wneud o dan y Statud hwn ddarparu ar gyfer sicrhau bod buddion Undeb y Myfyrwyr ar gael, naill ai drwy aelodaeth neu fel arall, i bersonau, ar wahân i Fyfyrwyr, sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd neu sydd â chyswllt arall â Phrifysgol Caerdydd sy'n ei gwneud yn briodol i'r buddion hynny fod ar gael iddynt.

Statud XIV – Swyddi Gwag Annisgwyl

1.  Bydd y broses ar gyfer delio â swyddi gwag annisgwyl yn aelodaeth unrhyw gorff neu bwyllgor sydd wedi'i sefydlu gan neu o dan y Siarter neu'r Statudau hyn fel sydd wedi'i nodi yn yr Ordinhadau.

Statud XV – Staff Academaidd

Rhan I – Lluniad, Cymhwysiad A Dehongliad

Lluniad

1. Dylid dehongli’r Statud hwn ac unrhyw Ordinhadau neu Reoliadau a wneir o dan y Statud hwn ym mhob achos i weithredu’r egwyddorion arweiniol canlynol, hynny yw –
(1) sicrhau bod gan staff academaidd ryddid o fewn y gyfraith i gwestiynu a phrofi doethineb safonol, ac i gyflwyno syniadau newydd a barn ddadleuol neu amhoblogaidd, heb eu rhoi eu hun mewn perygl o golli eu swyddi neu’u breintiau;
(2) galluogi Prifysgol Caerdydd i ddarparu addysg, hyrwyddo dysgu ac ymgysylltu mewn ymchwil effeithlon a darbodus; a
(3) chymhwyso egwyddorion cyfiawnder a thegwch.

Pa mor rhesymol yw penderfyniadau

2. Ni fydd unrhyw ddarpariaeth yn Rhan II na Rhan III yn galluogi'r corff neu'r person sydd â'r dyletswydd i gyrraedd penderfyniad o dan y Rhan berthnasol i ddiswyddo unrhyw aelod o'r staff academaidd oni bai y gallai'r rheswm dros ddiswyddo o dan yr amgylchiadau hynny (gan gynnwys maint ac adnoddau gweinyddol Prifysgol Caerdydd) gael ei drin yn rhesymol fel rheswm digonol dros ddiswyddo'r aelod hwnnw.

Cymhwysiad

3.
(1) Bydd y Statud hwn yn berthnasol i –

  • (i)  Athrawon, Darllenwyr, Uwch Ddarlithwyr a Darlithwyr; a staff ymchwil a chategorïau eraill o gyflogeion neu gyflogeion unigol eraill yn ôl penderfyniad y Cyngor o bryd i'w gilydd;
  • (ii) y Llywydd a'r Is-Ganghellor, i'r graddau ac yn y modd sydd wedi'i nodi yn yr Atodiad i'r Statud.

(2) Yn y Statud hwn, mae unrhyw gyfeiriad at "Staff Academaidd" yn gyfeiriad at bobl y mae'r Statud hwn yn berthnasol iddynt.

Dehongliad

Ystyr "diswyddo"

4. Yn y Statud hwn, mae "diswyddo" yn golygu diswyddo aelod o'r Staff Academaidd ac –
(1) yn cynnwys cael gwared ar yr aelod hwnnw; ac
(2) mewn perthynas â chyflogaeth o dan gontract, yn cael ei ddehongli yn unol ag adran 55 Deddf Diogelu Cyflogaeth (Cydgrynhoi) 1978 neu unrhyw ddeddfwriaeth olynol.

Ystyr "achos da"

5.
(1) At ddibenion y Statud hwn, mae "achos da" mewn perthynas â diswyddo neu gael gwared ar aelod o'r staff academaidd, os yw mewn unrhyw achos yn reswm sy'n gysylltiedig ag ymddygiad neu â gallu neu gymwysterau ar gyfer gwneud y gwaith y cafodd yr aelod o'r staff academaidd dan sylw ei benodi neu ei gyflogi i'w wneud, yn golygu

  • (i) euogfarn ar gyfer trosedd a allai gael ei ystyried gan Dribiwnlys sydd wedi'i benodi o dan Rhan III yn ddigon i benderfynu bod y person sydd wedi cael yr euogfarn yn anaddas i gyflawni dyletswyddau'r swydd neu'r gyflogaeth fel aelod o'r staff academaidd; neu
  • (ii) ymddygiad o natur anfoesol, gwarthus neu gywilyddus, sy'n anghydnaws â dyletswyddau'r swydd neu'r gyflogaeth; neu
  • (iii) ymddygiad sy'n gyfystyr â methu neu wrthod yn barhaus neu esgeuluso neu anallu i gyflawni dyletswyddau neu i gydymffurfio ag amodau'r swydd; neu
  • (iv) analluedd corfforol neu feddyliol fel sydd wedi'i nodi yn Rhan IV.

(2) Yn yr adran hon –

  • (i) mae "galluedd", mewn perthynas ag aelod o'r fath, yn golygu galluedd sy'n cael ei asesu drwy gyfeirio at sgìl, gallu, iechyd neu unrhyw nodwedd gorfforol neu feddyliol arall; ac
  • (ii) mae "cymwysterau", mewn perthynas ag aelod o'r fath, yn golygu unrhyw radd, diploma neu gymhwyster academaidd, technegol neu broffesiynol arall sy'n berthnasol i'r swydd sy'n cael ei dal gan yr aelod hwnnw.

Ystyr "dileu swydd"

6. At ddibenion y Statud hwn, bydd diswyddo yn cael ei bennu yn ddiswyddo oherwydd dileu swydd os yw'n rhannol neu'n gyfan gwbl oherwydd –
(1) y ffaith bod Prifysgol Caerdydd wedi, neu ei bod yn bwriadu, diddymu'r gweithgaredd at y diben y penodwyd neu y cyflogwyd yr aelod perthnasol o staff ato gan Brifysgol Caerdydd, neu ei bod wedi, neu ei bod yn bwriadu, diddymu'r gweithgaredd hwnnw yn y lle y gweithiodd yr aelod perthnasol o staff;
(2) y ffaith bod y gofyniad i aelodau o'r staff academaidd gyflawni gwaith o fath penodol drwy, neu i aelodau o'r staff academaidd gyflawni gwaith o fath penodol yn y lle hwnnw, wedi dod i ben neu bod llai o ofyniad, neu y disgwylir iddo ddod i ben neu fynd yn llai.

Materion achlysurol, atodol a throsiannol

7.
(1) Yn achos unrhyw wrthdaro, bydd darpariaethau'r Statud hwn yn dod uwchben rhai unrhyw Statud arall ac uwchben rhai'r Ordinhadau a'r Rheoliadau, a bydd darpariaethau unrhyw Ordinhad sydd wedi'i wneud o dan y Statud hwn yn dod uwchben rhai unrhyw Ordinhad arall: Ar yr amod bod Rhan III ac Atodiad y Statud hwn ddim yn berthnasol mewn cyswllt ag unrhyw beth a wnaethpwyd neu na wnaethpwyd cyn y dyddiad y cymeradwywyd y cyfrwng sy'n gwneud yr addasiadau hyn o dan isadran (9) adran 204 Deddf Diwygio Addysg 1988.
(2) Ni fydd unrhyw beth mewn unrhyw apwyntiad a wnaed, neu gontract y cytunir arno, yn cael ei ddehongli fel rhywbeth sy'n bwysicach neu'n eithrio unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan y Statud hwn sy'n ymwneud â diswyddo aelod o'r staff academaidd oherwydd dileu swydd neu oherwydd achos da: Ar yr amod na fydd unrhyw beth yn yr isadran hon yn atal hepgoriadau a wnaed o dan adran 142 Deddf Diogelu Cyflogaeth (Cydgrynhoi) 1978 neu unrhyw ddeddfwriaeth olynol rhag dod i rym.
(3) Ni fydd unrhyw beth mewn unrhyw Statud arall neu mewn unrhyw Ordinhad neu Reoliad a wnaed yn awdurdodi nac yn gofyn i unrhyw un o swyddogion Prifysgol Caerdydd eistedd fel aelod o unrhyw Bwyllgor, Tribiwnlys neu gorff wedi'i benodi gan y Statud hwn, na bod yn bresennol pan fydd unrhyw Bwyllgor, Tribiwnlys neu gorff o'r fath yn cyfarfod i ddod i benderfyniad neu at ddibenion trafod unrhyw bwynt gweithdrefn.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Statud hwn at y Brifysgol, at Uwch Is-Ganghellor y Brifysgol neu at statws neu deitl Prifysgol sydd gan aelod o'r staff academaidd yn gyfeiriad at Brifysgol Cymru, neu at yr Uwch Is-Ganghellor neu at statws neu deitl Prifysgol ym Mhrifysgol Cymru, fel sy'n briodol.
(5) Yn y Statud hwn, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau, isadrannau a pharagraffau wedi'u rhifo yn cyfeirio at Rannau, adrannau, isadrannau a pharagraffau sydd wedi'u rhifo fel hynny yn y Statud hwn.

Rhan II Dileu Swyddi

Diben Rhan II

8. Mae'r Rhan hon yn galluogi'r Cyngor, fel y corff priodol, i ddiswyddo unrhyw aelod o'r Staff Academaidd oherwydd dileu swydd.

Eithrio pobl wedi'u penodi neu eu dyrchafu cyn 20 Tachwedd 1987 o Ran II.

9.
(1) Ni fydd unrhyw beth yn y Rhan hon yn achosi rhagfarn, yn addasu neu'n effeithio ar unrhyw rai o hawliau, pwerau na dyletswyddau Prifysgol Caerdydd neu'n berthnasol mewn perthynas â pherson oni bai –

  • (i)  bod apwyntiad y person hwnnw wedi cael ei wneud, neu mae'r person dan sylw wedi dechrau contract cyflogaeth, ar 20 Tachwedd 1987 neu ar ôl hynny; neu
  • (ii) mae'r person dan sylw wedi'i ddyrchafu ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny.

(2) At ddibenion yr adran hon mewn perthynas â pherson, bydd cyfeiriad at apwyntiad a wnaed neu gontract y cytunwyd arno ar 20 Tachwedd 1987 neu ar ôl hynny, neu at ddyrchafiad ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny, yn cael ei ddehongli yn unol ag isadrannau (3) i (6) adran 204 Deddf Diwygio Addysg 1988.

Y Corff Priodol

10.
(1) Y Cyngor fydd y corff priodol at ddibenion y Rhan hon.
(2) Mae'r adran hon yn berthnasol lle mae'r corff priodol wedi penderfynu y byddai'n ddymunol sicrhau lleihad yn staff academaidd –

  • (i) Prifysgol Caerdydd yn gyffredinol; neu
  • (ii) unrhyw Ysgol neu ardal arall debyg ym Mhrifysgol Caerdydd.

11.
(1) Lle mae'r corff priodol wedi cyrraedd penderfyniad o dan adran 10 (2) bydd yn penodi Pwyllgor Dileu Swyddi yn unol ag isadran(3) yr adran hon i ddod â'i benderfyniad i rym erbyn dyddiad y mae'n ei bennu ac at y diben hwnnw

  • (i)  dewis ac argymell aelodau o'r staff academaidd y mae'n rhaid eu diswyddo oherwydd dileu swyddi; ac
  • (ii) adrodd ei argymhellion i'r corff priodol.

(2) Bydd y corff priodol naill ai'n cymeradwyo unrhyw argymhelliad o ddetholiad a wnaed o dan isadran (1), neu yn ei ailgyfeirio i'r Pwyllgor Dileu Swyddi ar gyfer ystyriaeth bellach yn unol â'i gyfarwyddyd pellach.
(3) Bydd Pwyllgor Dileu Swyddi sy'n cael ei benodi gan y corff priodol yn cynnwys –

  • (i) Cadeirydd; a
  • (ii) dau aelod o'r Cyngor, sydd ddim yn bersonau wedi'u cyflogi gan Brifysgol Caerdydd; a
  • (iii) dau aelod o'r Staff Academaidd wedi'u henwebu gan y Senedd.

Hysbysiadau o ddiswyddo arfaethedig

12.
(1) Lle mae'r corff priodol wedi cymeradwyo argymhelliad o ddetholiad wedi'i wneud o dan adran 11(1), gallai awdurdodi un o swyddogion Prifysgol Caerdydd fel ei ddirprwy i ddiswyddo unrhyw aelod o'r Staff Academaidd sydd wedi'i ddethol.
(2) Bydd pob aelod o'r staff academaidd sy'n cael ei ddethol yn cael hysbysiad ar wahân o'r detholiad sydd wedi'i gymeradwyo gan y corff priodol.
(3) Bydd pob hysbysiad ar wahân yn nodi'n ddigonol yr amgylchiadau sydd wedi bodloni'r corff priodol bod y diswyddo arfaethedig yn rhesymol, ac yn benodol, bydd yn cynnwys:

  • (i)  crynodeb o'r camau sydd wedi'u cymryd gan y corff priodol o dan y Rhan hon;
  • (ii) cyfrif o'r prosesau dethol wedi'u defnyddio gan y Pwyllgor Diswyddo;
  • (iii)  cyfeiriad at hawliau y person sydd wedi cael yr hysbysiad i apelio yn erbyn yr hysbysiad, ac i'r amser sydd ar gael i gyflwyno apeliad o'r fath o dan Ran V (Apeliadau); a
  • (iv) datganiad ynglŷn â phryd fydd y diswyddo arfaethedig yn dod i rym.

Rhan III Disgyblaeth A Diswyddo

Gweithdrefnau Disgyblu

13.
(1) Bydd diffygion bach yn cael eu trin yn anffurfiol.
(2) Lle mae'r mater yn fwy difrifol, ond nid yw'n cyfrif fel achos da posibl ar gyfer diswyddo, bydd y weithdrefn ganlynol yn cael ei defnyddio –

Cam 1 – Rhybudd ar Lafar
Os na fydd ymddygiad neu berfformiad yn bodloni'r safonau derbyniol, bydd yr aelod o'r staff academaidd fel arfer yn cael RHYBUDD AR LAFAR.  Bydd yr aelod yn cael gwybod am y rheswm dros y rhybudd, yn cael gwybod mai dyma gam cyntaf y weithdrefn ddisgyblu ac yn cael gwybod bod ganddo hawl i apelio o dan yr adran hon.  Bydd nodyn cryno o'r rhybudd ar lafar yn cael ei gadw ond bydd yn cael ei ddileu ar ôl 12 mis, yn amodol ar ymddygiad a pherfformiad boddhaol.

Cam 2 – Rhybudd Ysgrifenedig
Os yw'r drosedd yn un ddifrifol, neu os bydd trosedd pellach yn digwydd, bydd RHYBUDD YSGRIFENEDIG yn cael ei roi i'r aelod o'r Staff Academaidd gan Bennaeth yr Ysgol neu ardal berthnasol arall.  Bydd y rhybudd yn rhoi manylion y gŵyn, y gwelliant sy'n ofynnol a'r amserlen ar gyfer gwella.   Bydd yn rhybuddio y gallai cwyn gael ei chyflwyno gerbron y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu aelod priodol arall o'r staff gweinyddol sydd wedi'i neilltuo gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor, yn gofyn i Dribiwnlys wedi'i benodi o dan adran 16 wrando ar y cyhuddiadau os nad oes gwelliant boddhaol, a bydd yn cynghori o'r hawl i apelio o dan yr adran hon.   Bydd copi o'r rhybudd ysgrifenedig hwn yn cael ei gadw gan Bennaeth yr Ysgol neu ardaloedd perthnasol eraill, ond bydd yn cael ei anwybyddu at ddibenion disgyblu ar ôl 2 flynedd, yn amodol ar ymddygiad a pherfformiad boddhaol.

Cam 3 – Apeliadau
Bydd aelod o'r staff academaidd sy'n dymuno apelio yn erbyn rhybudd disgyblu yn rhoi gwybod i'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu aelod priodol arall o'r staff gweinyddol wedi'i neilltuo gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor o fewn pythefnos.  Bydd y Rhag Is-Ganghellor sydd wedi'i enwebu gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn gwrando ar bob apêl o'r fath, a bydd penderfyniad y Rhag Is-Ganghellor yn derfynol.

Archwiliad rhagarweiniol i faterion disgyblu

14.
(1) Os nad oes gwelliant boddhaol wedi bod yn dilyn rhybudd ysgrifenedig sydd wedi'i roi o dan Gam 2 y weithdrefn yn adran 13, neu mewn unrhyw achos arall lle yr honnir bod ymddygiad neu berfformiad yn cyfrif fel achos da dros ddiswyddo, gallai cwyn sy'n gofyn i Dribiwnlys wedi'i benodi o dan adran 16 wrando ar yr cyhuddiadau, gael ei gwneud i'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol neu i aelod priodol arall o'r staff gweinyddol sydd wedi'i neilltuo gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor, a fydd yn dod â'r achos at sylw'r Llywydd a'r Is-Ganghellor.
(2) I alluogi'r Llywydd a'r Is-Ganghellor i ddelio'n deg ag unrhyw gŵyn a ddaw i'w sylw o dan isadran (1) bydd yn sefydlu unrhyw ymchwiliadau neu ymholiadau (os o gwbl) sy'n ymddangos yn angenrheidiol.
(3) Os yw'n ymddangos i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor bod cwyn a ddaw i'w sylw o dan isadran (1) yn ymwneud ag ymddygiad neu berfformiad nad yw'n bodloni safonau derbyniol, ond nad oes rhybudd ysgrifenedig wedi'i roi o dan adran 13, yn ymwneud â honiad penodol o dorri rheolau, Rheoliadau neu isddeddfau y mae cosb benodol fel arfer yn cael ei rhoi ar ei gyfer ym Mhrifysgol Caerdydd neu yn yr Ysgol neu ardal berthnasol arall, neu'n achos sy'n ddibwys neu'n annilys, gallai ei gwrthod ar fyrder, neu benderfynu peidio â chymryd camau pellach o dan y Rhan hon.
(4) Os na fydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn dileu cwyn o dan isadran (3), bydd yn trin y gŵyn fel ei bod yn cynnwys rheswm digonol dros gymryd camau pellach o dan y Rhan hon, ac os yw'n credu ei bod yn briodol, gallai ddiarddel yr aelod ar dâl llawn wrth aros am benderfyniad terfynol.
(5) Os bydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn dewis cymryd camau pellach o dan y Rhan hon, bydd yn ysgrifennu at yr aelod o'r staff academaidd dan sylw yn ei wahodd i roi ei sylwadau yn ysgrifenedig.
(6) Ar ôl i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor gael y sylwadau (os o gwbl),bydd yn ystyried y mater yng ngoleuni yr holl deunydd sydd ar gael bryd hynny a gallai –

  • (i) wrthod yr achos ei hun; neu
  • (ii) cyfeirio'r achos ar gyfer ystyriaeth o dan adran 13; neu
  • (iii) ddelio â'r achos ei hun yn anffurfiol os yw'n ymddangos i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor ei bod yn briodol gwneud hynny, ac os yw'r aelod o'r Staff Academaidd yn cytuno yn ysgrifenedig y dylid delio â'r mater yn y ffordd honno; neu
  • (iv) gyfeirio aelod priodol o'r staff gweinyddol sydd wedi'i neilltuo gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor i gyfeirio cyhuddiad neu gyhuddiadau i'w hystyried gan Dribiwnlys i'w benodi o dan adran 16.

(7) Os na fydd sylwadau yn cael eu derbyn o fewn 28 diwrnod, gallai'r Llywydd a'r Is-Ganghellor gymryd camau pellach fel sydd wedi'i nodi uchod, fel pe byddai'r aelod dan sylw wedi gwadu cynnwys a dilysrwydd yr achos honedig yn gyfan gwbl.
Sefydlu Cyhuddiadau

15.
(1) Mewn unrhyw achos lle mae'r Llywydd a'r Is-Ganghellor wedi rhoi cyfarwyddyd i gyhuddiad neu gyhuddiadau gael eu cyfeirio o dan adran 14(6)(iv), bydd yn gofyn i'r Cyngor benodi Tribiwnlys o dan adran 16 i wrando ar y cyhuddiad neu gyhuddiadau ac i benderfynu a yw ymddygiad neu berfformiad yr aelod o'r staff academaidd dan sylw yn cyfrif fel achos da dros ddiswyddo, neu yn cyfrif fel arall fel cwyn ddifrifol yn ymwneud â phenodiad neu gyflogaeth yr aelod.
(2) Lle mae'r Cyngor wedi cael cais i benodi Tribiwnlys o dan Adran 16, bydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn penodi ysgrifennydd y Tribiwnlys i fod yn gyfrifol am yr achos.
(3) Bydd y swyddog sy'n gyfrifol am yr achos yn llunio, neu'n trefnu i lunio'r cyhuddiad neu'r cyhuddiadau, ac yn cyflwyno, neu'n trefnu i gyflwyno'r cyhuddiad neu'r cyhuddiadau gerbron y Tribiwnlys.
(4) Dyletswydd y swyddog sy'n gyfrifol am yr achos fydd

  • (i)  anfon y cyhuddiad neu'r cyhuddiadau at y Tribiwnlys ac at yr aelod o'r staff academaidd dan sylw ynghyd â'r dogfennau penodol eraill; a
  • (ii) gwneud unrhyw drefniadau gweinyddol angenrheidiol ar gyfer galw tystion, cynhyrchu dogfennau ac yn gyffredinol ar gyfer cyflwyno'r achos yn briodol gerbron y Tribiwnlys.

Y Tribiwnlys

16.  Bydd Tribiwnlys wedi'i benodi gan y Cyngor yn cynnwys:
(1) Cadeirydd; a
(2) un aelod o'r Cyngor, sydd ddim yn berson wedi'i gyflogi gan Brifysgol Caerdydd; a
(3) un aelod o'r Staff Academaidd wedi'i enwebu gan y Senedd.

Darpariaethau sy'n ymwneud ag achos Tribiwnlys

17.
(1) Bydd y weithdrefn i'w dilyn mewn perthynas â pharatoi, gwrando ar a phenderfynu ar gyhuddiadau gan Dribiwnlys yn cael ei nodi mewn Ordinhadau sy'n cael eu gwneud o dan yr adran hon.
(2) Heb ragfarn tuag at gyffredinolrwydd y weithdrefn, bydd Ordinhadau o'r fath yn sicrhau –

  • (i)  bod gan yr aelod o'r Staff Academaidd dan sylw yr hawl i gael ei gynrychioli gan berson arall, waeth a oes gan y person hwnnw gymwysterau cyfreithiol ai peidio, mewn cysylltiad â ac mewn unrhyw achos lle mae Tribiwnlys yn gwrando ar gyhuddiadau;
  • (ii) na fydd penderfyniad yn cael ei wneud am gyhuddiad heb achos llafar lle mae gan yr aelod o'r staff academaidd dan sylw ac unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan yr aelod hwnnw i gynrychioli'r aelod yr hawl i fod yn bresennol;
  • (iii) y gallai'r aelod o'r Staff Academaidd ac unrhyw berson sy'n cynrychioli'r aelod o'r staff alw ar dystion a chwestiynu tystion ynglŷn â'r dystiolaeth y mae'r achos yn erbyn yr aelod hwnnw yn seiliedig arni; a
  • (iv) bod darpariaeth llawn a digonol yn cael ei gwneud ar gyfer –
    • (a) gohiriadau, gollyngiad o'r cyhuddiad neu'r cyhuddiadau oherwydd diffyg erlyniad, dychwelyd y cyhuddiad neu'r cyhuddiadau at y Llywydd a'r Is-Ganghellor ar gyfer ystyriaeth bellach ac ar gyfer cywiro camgymeriadau damweiniol; a
    • (b) terfynau amser priodol ar gyfer pob cam (gan gynnwys yr achos) ar gyfer y bwriad y bydd Tribiwnlys yn gwrando ar ac yn penderfynu ar bob cyhuddiad, mor fuan â sy'n ymarferol resymol.

Hysbysiad am benderfyniadau Tribiwnlys

18.
(1) Bydd Tribiwnlys yn anfon ei benderfyniad am unrhyw gyhuddiad sy'n cael ei gyfeirio ato (ynghyd â'i ganfyddiadau o ffeithiau a'r rhesymau dros ei benderfyniad ynglŷn â'r achos hwnnw a'i argymhellion, os o gwbl, ynglŷn â'r gosb briodol) at y Llywydd a'r Is-Ganghellor ac at bob un o bartïon yr achos.
(2) Bydd Tribiwnlys yn tynnu sylw at y cyfnod o amser ar gyfer gwneud unrhyw apêl drwy sicrhau bod copi o Ran V (Apeliadau) yn cael ei roi ar y cyd â phob copi o'i benderfyniad sy'n cael ei anfon at bob un o bartïon yr achos o dan yr adran hon.

Pwerau'r swyddog priodol lle mae cyhuddiadau'n cael eu cadarnhau gan Dribiwnlys

19.
(1) Lle mae'r cyhuddiad neu'r cyhuddiadau'n cael eu cadarnhau a'r Tribiwnlys yn canfod achos da ac yn argymell diswyddo'r aelod staff, ond nid mewn unrhyw achos arall, bydd y swyddog priodol yn penderfynu a fydd yn diswyddo'r aelod o'r Staff Academaidd dan sylw ai peidio.
(2) Mewn unrhyw achos lle mae'r cyhuddiad neu'r cyhuddiadau'n cael eu cadarnhau, ar wahân i lle mae'r swyddog priodol wedi penderfynu o dan isadran (1) i ddiswyddo'r aelod o'r Staff Academaidd dan sylw, gallai'r gweithredoedd sydd ar gael i'r swyddog priodol (sydd ddim yn cynnwys cosb fwy na'r hyn sy'n cael ei argymell gan y Tribiwnlys) gynnwys –

  • (i)  trafod y materion a godwyd gyda'r aelod dan sylw; neu
  • (ii) cynghori'r aelod dan sylw ynglŷn â'i ymddygiad yn y dyfodol; neu
  • (iii) rybuddio'r aelod dan sylw; neu
  • (iv) ddiarddel yr aelod dan sylw am gyfnod y bydd y swyddog priodol yn credu ei fod yn deg ac yn rhesymol, heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl penderfyniad y Tribiwnlys; neu
  • (v) unrhyw gyfuniad o'r uchod neu weithredoedd pellach neu arall o'r fath o dan gontract cyflogaeth yr aelod neu delerau ei benodiad fel sy'n ymddangos yn deg ac yn rhesymol ar gyfer holl amgylchiadau'r achos.

(3) Lle mae'r swyddog priodol wedi penderfynu o dan baragraff (1) i ddiswyddo aelod o'r staff academaidd sy'n dal statws neu deitl yn y Brifysgol, bydd yn rhoi gwybod i Uwch Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, er mwyn i'r Brifysgol, yn amodol ar ganlyniad unrhyw apêl a wnaed gan yr aelod o'r staff academaidd o dan Ran V, dynnu ei statws neu ei deitl yn y Brifysgol oddi wrth yr aelod dan sylw.

Swyddogion Priodol

20.
(1) Y Llywydd a'r Is-Ganghellor fydd y swyddog priodol i arfer y pwerau a roddir o dan adran 19 ac mae unrhyw gyfeiriad at y swyddog priodol yn cynnwys cyfeiriad at ddirprwy y swyddog hwnnw.
(2) Bydd unrhyw gamau a fydd yn cael eu cymryd gan y swyddog priodol yn cael eu cadarnhau yn ysgrifenedig.

Rhan IV Diswyddo Oherwydd Analluedd Ar Sail Feddygol

21.
(1) Mae'r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ar wahân ar gyfer asesu analluedd ar sail feddygol fel achos da dros ddiswyddo.
(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at sail feddygol yn gyfeiriadau at alluedd sy'n cael ei asesu drwy gyfeirio at iechyd neu unrhyw nodwedd gorfforol neu feddyliol arall.
(3) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at y swyddog priodol yn gyfeiriadau at y Llywydd a'r Is-Ganghellor neu at ei ddirprwy i gymryd y camau perthnasol.
(4) Mae cyfeiriadau at yr aelod o'r staff academaidd yn cynnwys, mewn achosion lle mae natur yr analluedd honedig yn gofyn am hynny, perthynas neu ffrind cyfrifol yn ogystal â (neu yn lle) yr aelod hwnnw.

22.
(1) Lle mae'n ymddangos y byddai diswyddo aelod o'r Staff Academaidd ar sail feddygol yn gyfiawn, bydd y swyddog priodol –

  • (i)  yn rhoi gwybod i'r aelod yn unol â hynny; ac
  • (ii) yn rhoi gwybod i'r aelod yn ysgrifenedig mai'r bwriad yw gwneud cais i feddyg yr aelod am adroddiad meddygol, a bydd yn ceisio cydsyniad yr aelod yn ysgrifenedig yn unol â gofynion Deddf Mynediad at Adroddiadau Meddygol 1988.

(2) Os bydd yr aelod o'r un farn, bydd Prifysgol Caerdydd yn talu costau rhesymol unrhyw farn feddygol sydd ei hangen.
(3) Os na fydd yr aelod o'r un farn, bydd y swyddog priodol yn cyfeirio'r achos yn gyfrinachol, gydag unrhyw dystiolaeth feddygol ategol a thystiolaeth arall (gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol wedi'i chyflwyno gan yr aelod), at Fwrdd sy'n cynnwys un person wedi'i enwebu gan y Cyngor; un person wedi'i enwebu gan yr aelod dan sylw neu, os nad yw'n enwebu neb, gan y Senedd; a Chadeirydd sydd â chymhwyster meddygol y cytunwyd arno ar y cyd gan y Cyngor a'r aelod, neu lle nad oes cytundeb, i'w enwebu gan Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon.
(4) Gallai'r Bwrdd ei gwneud yn ofynnol i'r aelod dan sylw gael archwiliad meddygol, a bydd Prifysgol Caerdydd yn talu costau hynny.

Dod â chyflogaeth i ben

23. Os bydd y Bwrdd yn penderfynu y bydd yn ofynnol i'r aelod ymddeol ar sail feddygol, bydd y swyddog priodol yn rhoi cyfarwyddyd i aelod priodol o'r staff gweinyddol wedi'i neilltuo gan y Llywydd neu'r Is-Ganghellor i ddod â chyflogaeth yr aelod dan sylw i ben ar y sail feddygol honno.

Rhan V Apeliadau

Diben Rhan V

24. Mae'r Rhan hon yn sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gwrando ar a phenderfynu ar apeliadau gan aelodau o'r staff academaidd sydd wedi'u diswyddo neu sydd o dan hysbysiad diswyddo neu sydd wedi'u disgyblu fel arall.

Cymhwyso a dehongli Rhan V

25.
(1) Mae'r Rhan hon yn berthnasol –

  • (i)  i apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Cyngor fel y corff priodol (neu ddirprwy'r corff hwnnw) i ddiswyddo wrth arfer ei bwerau o dan Rhan II;
  • (ii) i apeliadau sy'n codi mewn unrhyw achosion, neu o unrhyw benderfyniadau a wnaed, o dan Rhan III ar wahân i apeliadau o dan adran 13 (Apeliadau yn erbyn rhybuddion disgyblu);
  • (iii) i apeliadau yn erbyn diswyddo ar wahân i'r hyn sy'n deillio o ddilyn Rhan II neu Ran III;
  • (iv) i apeliadau yn erbyn diswyddo ar wahân i'r hyn sy'n deillio o ddilyn Rhan III; ac
  • (v) i apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed o dan Ran IV a bydd "apêl" ac "apelydd" yn cael ei ddehongli yn unol â hynny.

(2) Fodd bynnag, ni fydd unrhyw apêl yn mynd yn erbyn –

  • (i)  penderfyniad y corff priodol o dan adran 10(2);
  • (ii) canfyddiadau ffeithiol Tribiwnlys o dan adran 18(1) oni bai y bydd tystiolaeth newydd yn cael ei galw ar ran yr apelydd yn yr achos hwnnw, gyda chydsyniad y person neu'r personau sy'n gwrando ar yr apêl;
  • (iii) unrhyw ganfyddiad gan Fwrdd wedi'i sefydlu o dan adran 22(3).

(3) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at "y person wedi'i benodi" yn gyfeiriadau at y person sydd wedi'i benodi gan y Cyngor o dan adran 28 i wrando ar a phenderfynu ar yr apêl berthnasol.
(4) Partïon apêl fydd yr apelydd ac aelod priodol o'r staff gweinyddol wedi'i neilltuo gan y Llywydd a'r Is-Ganghellor ac unrhyw berson arall wedi'i ychwanegu fel parti yn ôl cyfarwyddyd y person wedi'i benodi.

Sefydlu Apeliadau

26. Bydd aelod o'r staff academaidd yn sefydlu apêl drwy gyflwyno i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor, yn yr amser a ganiateir o dan adran 27, rybudd ysgrifenedig yn amlinellu sail yr apêl.

Yr amser ar gyfer apelio a hysbysiadau apêl

27.
(1) Bydd hysbysiad apêl yn cael ei gyflwyno o fewn 28 diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd y ddogfen yn cofnodi'r penderfyniad sy'n cael ei apelio ei anfon at yr apelydd neu gyfnod hirach o'r fath, os o gwbl, ag y mae'r person wedi'i benodi yn penderfynu arno o dan isadran (3).
(2) Bydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor neu ei enwebai yn dod ag unrhyw hysbysiad apêl sydd wedi'i dderbyn (a'r dyddiad y cafodd ei gyflwyno) at sylw'r Cyngor a bydd yn rhoi gwybod i'r apelydd ei fod wedi gwneud hynny.
(3) Lle cafodd yr hysbysiad apêl ei gyflwyno i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor neu ei enwebai y tu allan i'r cyfnod 28 diwrnod, ni fydd y person wedi'i benodi o dan adran 28 yn caniatáu i'r apêl fynd rhagddi oni bai bod y person wedi'i benodi yn ystyried bod amgylchiadau'r achos yn golygu bod hynny'n gyfiawn ac yn deg.

Personau wedi'u penodi i wrando ar a phenderfynu ar apeliadau

28.
(1) Lle mae apêl wedi'i sefydlu o dan y Rhan hon, bydd y Cyngor yn penodi person sydd wedi'i ddisgrifio yn isadran (2) i wrando ar a phenderfynu ar yr apêl honno.
(2) Y personau sydd wedi'u disgrifio yn yr isadran hon yw –

  • (i)  y person sy'n Ymwelydd; neu
  • (ii) person nad yw wedi'i gyflogi gan Brifysgol Caerdydd sy'n dal, neu sydd wedi dal, swydd farnwrol neu sydd wedi bod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr am o leiaf deng mlynedd.

(3) Bydd y person wedi'i benodi yn eistedd ar ei ben ei hun oni bai ei fod yn ystyried y byddai'n fwy teg a chyfiawn iddo eistedd gyda dau berson arall.
(4) Y personau eraill a allai eistedd gyda'r person wedi'i benodi yw –

  • (i) un aelod o'r Cyngor, sydd ddim yn berson wedi'i gyflogi gan Brifysgol Caerdydd; aelod
  • (ii) un aelod o'r Staff Academaidd wedi'i enwebu gan y Senedd.

Darpariaethau sy'n ymwneud â phwerau a gweithdrefnau apelio

29.
(1) Bydd y weithdrefn i'w dilyn mewn perthynas â pharatoi, cydgrynhoi, gwrando ar a phenderfynu ar apeliadau yn cael ei nodi mewn Ordinhadau sy'n cael eu gwneud o dan yr adran hon.
(2) Heb ragfarn tuag at gyffredinolrwydd y weithdrefn, bydd Ordinhadau o'r fath yn sicrhau –

  • (i)  bod gan yr apelydd yr hawl i gael ei gynrychioli gan berson arall, waeth a oes gan y person hwnnw gymwysterau cyfreithiol ai peidio, mewn cysylltiad â ac mewn unrhyw achos lle mae gwrandawiad ar gyfer ei apêl;
  • (ii) na fydd apêl yn cael ei benderfynu heb achos llafar lle mae gan yr apelydd, ac unrhyw berson sy'n cael ei benodi gan yr apelydd i'w gynrychioli, yr hawl i fod yn bresennol a, gyda chydsyniad y person neu'r personau sy'n gwrando ar achos yr apêl, i alw ar dystion;
  • (iii) bod darpariaeth llawn a digonol yn cael ei gwneud ar gyfer gohiriadau, gollyngiad o'r apêl oherwydd diffyg erlyniad ac ar gyfer cywiro camgymeriadau damweiniol; a
  • (iv) bod y person wedi'i benodi yn cael gosod terfynau amser priodol ar gyfer pob cam (gan gynnwys yr achos ei hun) at y diben y bydd pob apêl yn cael gwrandawiad ac y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn ei chylch mor fuan â sy'n ymarferol resymol.

(3)Gallai person neu bersonau sy'n gwrando ar yr apêl ganiatáu neu wrthod apêl yn rhannol neu'n gyfan gwbl, ac heb ragfarn, gallai:

  • (i) ailgyfeirio apêl o benderfyniad o dan Ran II i'r Cyngor fel y corff priodol (neu unrhyw fater sy'n codi o ganlyniad i apêl o'r fath) ar gyfer ystyriaeth bellach yn ôl cyfarwyddyd y person neu'r personau sy'n gwrando ar yr apêl; neu
  • (ii) ailgyfeirio apêl sy'n codi o dan Ran III ar gyfer ail-wrandawiad gan Dribiwnlys sydd wedi'i gyfansoddi'n wahanol, i'w benodi gan y Rhan honno; neu
  • (iii) ailgyfeirio apêl o benderfyniad y swyddog priodol o dan Ran IV ar gyfer ystyriaeth bellach yn ôl cyfarwyddyd y person neu'r personau sy'n gwrando ar yr apêl; neu
  • (iv) disodli unrhyw gosb arall llai o faint a fyddai wedi bod yn agored i'r swyddog priodol yn dilyn canfyddiad y Tribiwnlys a wnaeth wrando ar y cyhuddiad neu'r cyhuddiadau gwreiddiol a phenderfynu ar yr achos.

Hysbysu am benderfyniadau

30.  Bydd y person wedi'i benodi yn anfon y penderfyniad a'r rhesymau drosto, gan gynnwys unrhyw benderfyniad y cyrhaeddwyd atynt wrth arfer ei bwerau o dan adran 29(3) (a), (b), neu (c), ar unrhyw apêl ynghyd ag unrhyw ganfyddiadau o ffeithiau sy'n wahanol i'r rheini a ganfuwyd gan y Cyngor fel y corff priodol o dan Ran II neu gan y Tribiwnlys o dan Ran III, beth bynnag yw'r achos, at y Llywydd a'r Is-Ganghellor, ac at bartïon yr apêl ac at Uwch Is-Ganghellor Prifysgol Cymru yn achos apêl gan aelod o'r staff academaidd sy'n dal statws neu deitl yn y Brifysgol.

Rhan VI Gweithdrefnau Cwyno

Diben Rhan VI

31. Diben y Rhan hon yw setlo neu wneud iawn am gwynion unigolion yn amserol, yn deg, a hyd ag y bo'n bosibl, o fewn yr Ysgol neu'r ardal berthnasol arall drwy ddulliau sy'n dderbyniol i'r holl bartïon.
Cymhwysiad

32. Y cwynion y mae'r Rhan hon yn berthnasol iddynt yw'r rheini gan aelodau o'r staff academaidd sy'n ymwneud â'u penodiad neu eu cyflogaeth, lle mae'r cwynion hynny yn ymwneud â –
(1) materion sy'n effeithio arnyn nhw fel unigolion; neu
(2) materion sy'n effeithio ar eu trafodaethau personol neu ar eu perthynas â staff eraill ym Mhrifysgol Caerdydd, heb fod yn faterion y mae darpariaeth benodol wedi'i gwneud ar eu cyfer mewn man arall yn y Statud hwn.

Eithriadau a Gweithdrefnau Anffurfiol

33.
(1) Os yw datrysiadau eraill o fewn yr Ysgol neu ardal berthnasol arall wedi cael eu hystyried ac wedi methu, gallai'r aelod o'r staff academaidd godi'r mater gyda Phennaeth yr Ysgol neu'r ardal berthnasol arall.
(2) Os yw'r aelod o'r staff academaidd yn anfodlon â chanlyniad dull datrysiad o dan isadran (1) neu os yw'r gŵyn yn ymwneud yn uniongyrchol â Phennaeth yr Ysgol neu ardal berthnasol arall, gallai'r aelod wneud cais ysgrifenedig at y Llywydd a'r Is-Ganghellor i ddatrys y gŵyn.
(3) Os yw'n ymddangos i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor bod y mater wedi cael penderfyniad terfynol o dan Ran III, IV neu V neu fod y gŵyn yn ddibwys neu'n annilys, gallai ei gwrthod ar fyrder, neu beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.  Os yw'n ymddangos felly i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor, bydd yn hysbysu'r aelod a'r Pwyllgor Cwynion yn unol â hynny.
(4) Os yw'r Llywydd a'r Is-Ganghellor yn fodlon y gallai cynnwys y gŵyn gael ei ystyried gyda (neu ffurfio'r cyfan neu unrhyw ran o) –

  • (i)  cwyn o dan Ran III;
  • (ii) penderfyniad o dan Ran IV; neu
  • (iii) apêl o dan Ran V, bydd yn gohirio unrhyw gamau o dan y Rhan honno nes bydd y gŵyn, y penderfyniad neu'r apêl briodol wedi cael gwrandawiad, neu mae'r amser i'w sefydlu wedi mynd heibio, a bydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn hysbysu'r aelod a'r Pwyllgor Cwynion yn unol â hynny.

(5) Os na fydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn gwrthod y gŵyn o dan isadran (3) neu os na fydd yn gohirio camau pellach o dan isadran (4), bydd yn penderfynu a fyddai'n briodol, at ddibenion cyfiawnder a thegwch, ceisio rhoi'r gŵyn o'r neilltu yn anffurfiol.   Os bydd yn penderfynu gwneud hynny, bydd yn hysbysu'r aelod ac yn gweithredu'n unol â hynny.

Gweithdrefn y Pwyllgor Cwynion

34. Os nad yw'r gŵyn wedi cael ei rhoi o'r neilltu yn anffurfiol o dan adran 33(5), bydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn cyfeirio'r mater ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Cwynion.

35. Bydd y Pwyllgor Cwynion sydd wedi'i benodi gan y Cyngor yn cynnwys –
(1) Cadeirydd (a allai fod y person sy'n Ymwelydd); a
(2) un aelod o'r Cyngor, sydd ddim yn berson wedi'i gyflogi gan Brifysgol Caerdydd; a
(3) un aelod o'r staff academaidd wedi'i enwebu gan y Senedd.

Y weithdrefn mewn cysylltiad â phenderfyniadau; a'r hawl i gael cynrychiolaeth

36. Bydd y weithdrefn mewn cysylltiad ag ystyried a phenderfynu ar gwynion yn cael ei phennu mewn Ordinhadau mewn ffordd sy'n sicrhau bod gan y person sy'n cyflwyno'r gŵyn, neu unrhyw berson y mae'r gŵyn yn cael ei gwneud yn ei erbyn, yr hawl i gael ei glywed mewn gwrandawiad, ac i ddod â ffrind neu gynrychiolydd gydag ef.

Hysbysu am benderfyniadau

37. Bydd y Pwyllgor yn rhoi gwybod i'r Cyngor a oes sail i'r gŵyn ai peidio, ac os oes sail iddi, bydd y Pwyllgor yn gwneud cynigion ar gyfer datrys y gŵyn fel y mae'n ei ystyried yn briodol.

Darpariaethau O Ran Y Llywydd A'r Is-Ganghellor

1. Gallai'r Cyngor ofyn i'r Cadeirydd ddiswyddo'r Llywydd a'r Is-Ganghellor am achos da yn unol â'r weithdrefn sydd wedi'i disgrifio yn yr Atodiad hwn.
(1) Mae'n bosibl i gŵyn sy'n gofyn am ddiswyddo'r Llywydd a'r Is-Ganghellor am achos da gael ei chyflwyno gan ddim llai na thri aelod o'r Cyngor, i Gadeirydd y Cyngor.
(2) Os yw'n ymddangos i Gadeirydd y Cyngor, ar y deunydd o'i flaen, bod y gŵyn yn codi achos prima facie ac y gallai hyn, os yw'n cael ei brofi, gyfrif fel achos da dros ddiswyddo, bydd yn gofyn i'r Cyngor benodi Tribiwnlys i wrando ar a phenderfynu ar y mater.
(3) Os yw'n ymddangos i Gadeirydd y Cyngor nad yw cwyn a gyflwynwyd iddo o dan isadran (1) yn codi achos prima facie neu mae'n ddibwys neu'n annilys, mae'n bosibl y bydd yn argymell i'r Cyngor na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.
(4) Pan fydd y Cyngor wedi penodi Tribiwnlys o dan isadran (2), bydd yn rhoi cyfarwyddyd i gyfreithiwr neu berson addas arall lunio cyhuddiad neu gyhuddiadau ac i gyflwyno, neu drefnu i gyflwyno'r cyhuddiadau gerbron y Tribiwnlys.
(5) Bydd Tribiwnlys wedi'i benodi gan y Cyngor yn cynnwys:

  • (i) Cadeirydd annibynnol; a
  • (ii) un aelod o'r Cyngor, sydd ddim yn berson wedi'i gyflogi gan Brifysgol Caerdydd; a
  • (iii) un aelod o'r staff academaidd.

(6) Yn amodol ar egwyddorion cyfiawnder a thegwch, gallai'r Tribiwnlys benderfynu ar ei weithdrefn ei hun.
(7) Bydd y Tribiwnlys yn anfon ei benderfyniad rhesymegol am unrhyw gyhuddiad sy'n cael ei gyfeirio ato, ynghyd â'i ganfyddiadau o ffeithiau ynglŷn â'r achos a'i argymhellion, os o gwbl, ynglŷn â'r gosb briodol, at Gadeirydd y Cyngor ac at y Llywydd a'r Is-Ganghellor, gan dynnu sylw at y cyfnod amser y dylid gwneud unrhyw apêl ynddo.
(8) Bydd personau wedi'u penodi i wrando ar apêl o'r fath yn cynnwys –

  • (i) y person sy'n Ymwelydd; neu
  • (ii) person sy'n annibynnol ar Brifysgol Caerdydd, sy'n dal, neu sydd wedi dal, swydd farnwrol neu sydd wedi bod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr am o leiaf deng mlynedd, a bydd y person hwnnw wedi'i benodi, yn amodol ar egwyddorion cyfiawnder a thegwch, yn penderfynu ar y weithdrefn i'w mabwysiadau wrth wrando ar yr apêl.

(9) Bydd person wedi'i benodi yn anfon y penderfyniad rhesymegol am yr apêl, ynghyd ag unrhyw ganfyddiadau o ffeithiau sy'n wahanol i'r rhai a ganfuwyd gan y Tribiwnlys, a'i argymhellion, os o gwbl, ynglŷn â'r gosb briodol, at y Llywydd a'r Is-Ganghellor ac at Gadeirydd y Cyngor.
(10) Lle mae cyhuddiad neu gyhuddiadau wedi'u cadarnhau gan y Tribiwnlys a heb eu gwrthod yn yr apêl, bydd Cadeirydd y Cyngor yn penderfynu a fydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor yn cael ei ddiswyddo ai peidio.

2. Lle bydd cwyn yn cael ei chyfeirio at Dribiwnlys o dan y Statud hwn, gallai Cadeirydd y Cyngor ddiarddel y Llywydd a'r Is-Ganghellor o'i ddyletswyddau, a gwahardd y Llywydd a'r Is-Ganghellor o adeiladau Prifysgol Caerdydd heb golli unrhyw gyflog.

3. Mae "achos da" yn yr Atodiad hwn yn golygu yr un peth ag yn adran 5 y Statud hwn.

4. At ddibenion diswyddo'r Llywydd a'r Is-Ganghellor oherwydd analluedd ar sail feddygol, bydd Rhan IV y Statud yn dod i rym yn amodol ar yr addasiadau canlynol:-
(1) ar gyfer cyfeiriadau at aelod o'r staff academaidd, bydd cyfeiriadau cyfnewidiol at y Llywydd a'r Is-Ganghellor;
(2) ar gyfer unrhyw gyfeiriad at swydd y Llywydd a'r Is-Ganghellor, bydd cyfeiriad cyfnewidiol at swydd Cadeirydd y Cyngor;
(3) ar gyfer adran 23 bydd y cyfnewidiadau hyn –
"23  Os yw'r Bwrdd yn penderfynu y dylid ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd a'r Is-Ganghellor ymddeol ar sail feddygol, bydd yn gofyn i'r Cadeirydd fel y swyddog priodol, benderfynu a ddylid dod â phenodiad y Llywydd a'r Is-Ganghellor i ben ar y sail feddygol honno.