Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd - Polisi Gor-danysgrifio
- Dyddiad dod i rym:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
- Lawrlwytho'r ddogfen hon (PDF, 133.5 KB)
1. Nodau a Llywodraethu
1.1. Yn unol â Pholisïau Derbyn Prifysgol Caerdydd a chydymffurfiaeth â Chôd Ansawdd QAA y DU ar gyfer Addysg Uwch, mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnal ei phroses ddethol myfyrwyr mewn modd gwrthrychol, agored, tryloyw a theg heb unrhyw wahaniaethu. Er bod y broses ddethol yn rhwym wrth bolisi'r Brifysgol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, mae hefyd yn ddarostyngedig i nifer uchaf o leoedd yn seiliedig ar dargedau a therfynau comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar gyfer pob Blwyddyn Academaidd.
1.2. Mae'r polisi hwn yn cael ei oruchwylio gan y Cyfarwyddwr Derbyniadau a Grŵp Recriwtio'r Ysgol Gofal Iechyd ac mae'n ceisio diffinio'r amodau sy'n gysylltiedig â gordanysgrifio o fewn paramedrau'r nifer o leoedd a gomisiynir ar unrhyw gwrs.
2. Lleoedd a Gomisiynwyd
2.1. Mae nifer y lleoedd sydd ar gael ar unrhyw gwrs yn cael eu gosod yn flynyddol gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac ni all y Brifysgol sicrhau bod lleoedd ychwanegol ar gael.
3. Gwneud Cynnig
3.1. Mae'r Brifysgol yn rheoli ei phroses o gynnig lleoedd fel bod lle i bob deiliad cynnig sy'n cwrdd ag union amodau eu cynnig mewn amgylchiadau arferol. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol (er enghraifft, newidiadau annisgwyl i ddulliau asesu ar gyfer cymwysterau TGAU neu Safon Uwch, newidiadau i'r broses raddio a/neu ddyrannu dyfarniadau) sy'n golygu bod nifer yr ymgeiswyr sy'n cwrdd ag amodau cynnig lle ar gwrs yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael (“gordanysgrifio”).
4. Gor-danysgrifio
4.1. Mae gor-danysgrifio yn cyfeirio at nifer yr ymgeiswyr sy'n cwrdd ag amodau cynnig lle ar gwrs sy'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn/dyddiad mynediad hwnnw.
5. Camau gweithredu gan Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd pe bai achos o or-danysgrifio
5.1. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i wneud penderfyniad academaidd annibynnol ar ddeiliaid cynnig a bydd yn dyrannu lleoedd yn unol â Pholisi Gor-danysgrifio Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ar sail deg a rhesymol. Ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o unrhyw anallu neu fethiant i'ch derbyn i'r Brifysgol o ganlyniad i or-danysgrifio sydd y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.
6. Sail Deg a Rhesymol ar gyfer dyrannu lleoedd
6.1. Mae pob ymgeisydd sy'n cwrdd â'r meini prawf mynediad yn cael ei sgorio trwy fynychu Cyfweliad neu fodloni'r meini prawf penodol yn eu datganiad personol ac yna gwneir cynigion astudio yn seiliedig ar y sgorau hyn. Y sgôr hon fyddai’n cael ei defnyddio pe bai gor-danysgrifio i raglen ar gyfer ymgeiswyr sy’n bodloni amodau eu cynnig. Mae defnyddio'r sgôr hon yn golygu bod yr agweddau academaidd a’r rhai sy’n seiliedig ar werthoedd yn cael eu hystyried. Gellir defnyddio graddau a gyflawnir a/neu dariff hefyd fel ffactorau i wahaniaethu rhwng y rhai sydd â'r un sgôr cyfweliad a/neu ddatganiad personol.
7. Beth fydd yn digwydd os na ddyrennir lle i mi?
7.1. Os na ddyrennir lle i chi ar sail deg a rhesymol (fel y diffinnir uchod) bydd y Brifysgol yn:
- Rhoi cyfle i chi ohirio'ch lle i'r pwynt mynediad nesaf NEU;
- Cytuno ar le ar gwrs amgen priodol NEU;
- Eich cefnogi chi i symud i sefydliad arall.
7.2. Os bydd gor-danysgrifio, bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n aflwyddiannus trwy'r broses ddethol fel yr amlinellir yn y polisi hwn, neu nad ydynt yn cwrdd ag amodau eu cynnig, yn cael eu rhyddhau o'u cynnig fel blaenoriaeth ar ôl derbyn eu canlyniadau, i'w galluogi i fynd ar drywydd yswiriant, clirio, neu opsiynau a chynigion addas eraill.
Tabl rheoli'r ddogfen
Teitl y ddogfen: | Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd - Polisi Gor-danysgrifio |
---|---|
Dyddiad dod i rym: | 01 Tachwedd 2020 |