Ewch i’r prif gynnwys

Plant bach

Nodau

  • Rhoi amgylchedd lle gall pob plentyn ddatblygu ymdeimlad o ddiogelwch, cynhesrwydd, cariad ac anwyldeb
  • Gwneud i bob plentyn deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi
  • Rhoi cyfleoedd cyfartal i bob plentyn
  • Cynnig cyfleoedd i blant fod yn greadigol
  • Defnyddio iaith i gryfhau a rhoi ystyr i bopeth yr ydym yn ei wneud
  • Ymgyfarwyddo plant ag amser grwpiau bychain, canu, edrych ar lyfrau, ac ati.
  • Rhoi cyfleoedd i'r plentyn ryngweithio â'u cyfoedion ac oedolion
  • Galluogi'r plentyn i feithrin ymdeimlad o ymwybyddiaeth gymdeithasol a gwybodaeth am eu byd

Plant 2 i 3 oed sydd yn yr adran hon.

Un ystafell fawr yw hon sydd â charped braf dros y rhan fwyaf o'r llawr. Mae lle yn y cefn ar gyfer chwarae a 'gwneud llanast'. Mae rhai byrddau a chadeiriau ar gyfer gweithgareddau grŵp.

Mae plant o'r oed yma'n hoffi gwybod beth sy'n dod nesaf ac maent yn dysgu dilyn trefn yn gyflym iawn. Yn raddol, maent yn addasu i'r 'rheolau cymdeithasol' sy'n mynd gyda hwy. Byddant yn dechrau dangos nodweddion megis arweinyddiaeth a sensitifrwydd.

Mae sylfeini'n cael eu gosod ar gyfer dysgu yn y dyfodol drwy roi profiadau sy'n cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth y plant o'r byd o'u cwmpas. Mae edrych ar lyfrau, gwrando ar dapiau, gwahodd pobl i ymweld yn rhoi'r datblygiad iaith sydd ei angen i ategu a chyfoethogi dysgu'r plant.

Mae rhigymau a chaneuon cyfrif yn ffordd ddifyr o ddysgu sut i gyfrif, yn ogystal â gweithgareddau fel rhannu teganau, didoli dillad doliau a pharu lliwiau. Defnyddir dulliau dymunol o wneud dysgu'n hwyl yn yr adran hon.

I hybu hunanddibyniaeth a sgiliau helpu eu hunain, rydym yn annog y plant i helpu i dacluso teganau y maent wedi bod yn chwarae gyda nhw. Rydym yn rhoi tasgau bychain i'r plant sydd o fewn eu gallu, ac yn eu canmol i gydnabod a gwobrwyo beth maent wedi'i wneud.

Mae gweithgareddau creadigol ar gael bob dydd ac maent yn cael eu hamrywio drwy gydol yr wythnos. Bydd y plant yn arbrofi drwy ddefnyddio paent, clai, tywod, dŵr, creonau, sialc a glud. Yn yr oedran yma, bydd y plant yn dechrau dangos beth maent wedi ei baentio. Datblygir sgiliau llawdrin manwl bach drwy ddefnyddio cyfarpar priodol.

Rhennir yr ystafell hon yn ei hanner. Mae carped ar lawr un hanner. Dyma lle mae'r plant yn chwarae, yn gwrando ar storïau ac yn canu. Mae cyfleoedd i ddawnsio, canu a chael hwyl yn ceisio rhoi hwb i hyder eich plentyn a'i helpu i ddatblygu ei bersonoliaeth unigol. Mae hanner arall yr ystafell ar gyfer chwarae a 'gwneud llanast'. Dyma lle caiff y plant gyfle i fod yn greadigol drwy ddefnyddio paent, glud, clai, dŵr, tywod, creonau, sialc a gwaith celf a chrefft. Anogir y plant i arbrofi drwy ddefnyddio eu dwylo a'u bysedd.