Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd a diogelwch

Iechyd a diogelwch y plant sydd bwysicaf bob amser.

Dim ond drwy ddrysau sy'n cael eu cloi (sy'n cynnwys tyllau sbecian a chadwyni diogelwch) y gellir cael mynediad i'r feithrinfa. Nid ydym, o dan unrhyw amgylchiadau, yn caniatáu i'ch plentyn gael ei gasglu gan unigolyn sydd heb ganiatâd.

Mae offer yn cael eu harchwilio'n rheolaidd ac mae Swyddog Diogelwch y Brifysgol yn cynnal driliau tân.

Mae'r rhan fwyaf o'n staff wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.