Muddy Boots
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae Muddy Boots yn cynnig atebion meddalwedd ar gyfer y diwydiannau bwyd ac amaeth.
Gyda thua 100 o weithwyr yn y DU, maent yn gweithio o lefel ffermydd a thyfwyr i fanwerthwyr gan gynnwys Aldi, Morrison a Waitrose. Rhoddodd Muddy Boots ddau brosiect i'r Academi Gwyddor Data (DSA) yn 2020, a arweiniodd at roi lleoliad i ddau fyfyriwr dros fisoedd yr haf.
Mark Powell yw Rheolwr Cynnyrch Data a Dadansoddeg gyda Muddy Boots. Fe wnaethom ofyn i Mark am bartneriaeth lwyddiannus y cwmni gyda’r Academi Gwyddor Data (DSA).
Astudiaeth achos
Sut rydych chi wedi cydweithio â'r DSA?
Roedd gennym ddau fyfyriwr ar leoliad dros yr haf ar gyfer prosiectau 16 wythnos. Roedd un myfyriwr yn gweithio yn Sawdi-Arabia, a'r llall yng Nghaerdydd. Yn amlwg gyda chyfyngiadau Covid-19, gwnaed popeth o bell dros Teams ac roedden ni’n cysylltu’n rheolaidd yn rhithwir ddwywaith neu deirgwaith yr wythnos. Roedd y ddau ohonyn nhw'n hunangynhaliol ac nid oedd angen llawer o gefnogaeth arnyn nhw; dim ond ychydig bach o arweiniad a mynediad i ddata.
Pam gwnaethoch chi benderfynu gweithio gyda'r DSA?
Roedd gennym ychydig o achosion defnydd a oedd yn ymwneud â dadansoddeg data a dysgu â pheiriant ond nid yr amser na'r adnodd i allu eu harchwilio ymhellach. Roeddem o'r farn y byddai'n gyfle da i roi cynnig ar yr achosion prawf hyn a gweld sut roedd y broses leoli yn gweithio, gan nad oeddem erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen.
Dywedwch wrthym am y prosiectau a ddarparwyd gennych:
Roedd gennym ddau brosiect gydag un myfyriwr yn gweithio ar brosiect yr un.
- Y cyntaf oedd prosiect cydnabod delweddau a oedd yn edrych ar ganfod clefydau a diffygion mewn cnydau.
- Roedd yr ail yn fodel rhagfynegiad oes silff, gan edrych ar afalau a pha mor hir maent yn para. Roedd hwn yn rhoi mewnwelediad defnyddiol iawn a dangoson ni’r canlyniadau i M&S.
Sut clywsoch chi gyntaf am y DSA?
Bu peth cyswllt gennym â'r maes Cyfrifiadureg mewn perthynas â lleoliadau trwy ein Partner Dysgu a Datblygu, sy'n hoffi gweld lle gallwn greu cysylltiadau ar gyfer talent. Daeth ar draws y DSA a buom yn y noson agored ar gyfer y diwydiant y llynedd yn y Brifysgol a gweld cwpl o'r astudiaethau achos gan gwmnïau am eu profiadau lleoli.
Sut roedd y profiad o weithio gyda'r DSA i chi?
Roedd yn fuddiol iawn. Roedd y ddau fyfyriwr yn fedrus yn yr hyn yr oeddent yn ceisio'i wneud. Pe bai angen i ni recriwtio gwyddonwyr data bryd hynny, byddent wedi bod yn ymgeiswyr da. Rydym yn bwriadu cynnig prosiect arall eleni y byddaf yn ei drafod â’r DSA yn ystod sesiwn cinio a dysgu.
Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.