Ewch i’r prif gynnwys

Bwyd figan a llysieuol ar y campws

Opsiynau sy’n seiliedig ar blanhigion ym Mhrifysgol Caerdydd

P'un a ydych chi'n figan, yn llysieuwr neu'n chwilio am gyfleoedd i gynnwys mwy o brydau sy’n seiliedig ar blanhigion yn rhan o’ch deiet wythnosol, edrychwch beth sydd ar gael yn ein caffis a'n bwytai.

Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, bwyta'n iach, a chynhwysiant yn golygu y cewch hyd i opsiynau bwyd a diod sy'n seiliedig ar blanhigion ym mhob un o'n caffis a bwytai ar y campws.

O'r rholiau yn ein prydau rhesymol a'r pasteiod i frecwast, i opsiynau llaeth amgen ar gyfer eich diodydd poeth ac oer, rydym yn gwneud yn siŵr bod ein bwydlenni'n addas i’n myfyrwyr amrywiol.

Ddim yn ein credu ni? Edrychwch ar ein bwydlenni wythnosol.

A chofiwch hefyd am ein caffi sy’n gwerthu bwyd figan a llysieuol yn unig, .Green Shoots  Caffi Green Shoots sydd â'r amrywiaeth fwyaf o seigiau sy'n seiliedig ar blanhigion, felly gallwch ddisgwyl gweld digonedd o lysiau ffres, grawn cyflawn, hadau a chodlysiau ar y fwydlen. Fe enillodd wobr hefyd yng Ngwobrau Green Gown 2024

3 rheswm dros gynnwys mwy o seigiau sy'n seiliedig ar blanhigion yn eich deiet wythnosol

Hyd yn oed os nad ydych chi'n figan neu’n llysieuwr, gall dechrau cynnwys rhagor o fwyd sy'n seiliedig ar blanhigion yn eich diet fod yn syniad da – heb roi'r gorau i'r bwydydd rydych chi'n eu hoffi fwyaf. Dyma pam:

  1. Mae'n dda i'r blaned: mae'r diwydiant bwyd yn cyfrannu'n fawr at allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond gall ychydig o newidiadau syml (fel cael un neu ddau o brydau llysieuol yr wythnos) helpu i leihau eich ôl troed amgylcheddol.
  2. Mae'n wirioneddol flasus: mae llawer o bobl yn meddwl bod seigiau sy'n seiliedig ar blanhigion yn ddiflas ar y cyfan, ond nid yw hyn yn wir o gwbl gan fod y posibiliadau'n ddiddiwedd gyda'r cynhwysion hyn.
  3. Gallai fod yn well i chi: gall deiet figan cytbwys roi’r holl faetholion sydd eu hangen arnoch chi, o brotein sy'n seiliedig ar blanhigion i wrthocsidyddion pwerus, a thros amser, gall y manteision iechyd bentyrru a chael cryn effaith.

Chwiliwch am ein seigiau figan a llysieuol blasus ar draws y campws a rhoi cynnig arnyn nhw!

Latest articles

Pam y dylech chi fod yn aelod o Glwb CUFoods

A bespoke meal package tailored to you

Bwyd figan a llysieuol ar y campws

Opsiynau sy’n seiliedig ar blanhigion ym Mhrifysgol Caerdydd

Bwyd am bris gostyngol ar gael drwy Too Good To Go

Cyfle i leihau gwarged bwyd ac arbed arian