Manteisiwch ar ein cynigion bwyd

Dewisiadau rhesymol a blasus dros ben
Mae ein hystod eang o gynigion yn cynnig bwyd bendigedig am brisiau rhesymol. O brydau cinio mawr a maethlon i fyrbrydau cyflym, mae gennym ni rywbeth sy’n addas i bob chwant a chyllideb.
Nid ydym wedi codi prisiau ein cynigion cinio ers 2021, a chan fod gostyngiadau ar gael drwy gydol y dydd, gallwch chi arbed hyd yn oed rhagor, pryd bynnag y bydd angen rhywbeth i fwyta arnoch chi.
Gostyngiadau drwy’r dydd:
- Gostyngiad o 10% ar bob diod poeth cyn 9.30am
- Gostyngiad o 10% ar smwddis brecwast cyn 10am
- Gostyngiad o 10% ar ddiodydd iâ ar ôl 1:30pm
- Paned o de a bisged am £2 ar ôl 2pm
Cynigion cinio:
- Rholyn CUFoods + pecyn o greision neu bopcorn + can o Pepsi/Tango/7up neu ddŵr = £3.70
- Panini CUFoods + pecyn o greision neu bopcorn + can o Pepsi/Tango/7up neu ddŵr = £5
- Rholyn CUFoods £2.30 + cawl arferol wedi'i ostwng i £1 = £3.30
- Blwch Poeth + can o Pepsi/Tango/7up neu ddŵr = £5
- Taten drwy’i chroen + un llenwad + can o Pepsi/Tango/7up neu ddŵr = £3.85

Cofiwch am ap Teyrngarwch CUFoods hefyd…
Lawrlwythwch yr ap teyrngarwch i gasglu pwyntiau a gwobrau wrth brynu. Sganiwch i fanteisio ar y canlynol:
- 4 pwynt teyrngarwch (4c) am bob £1 yr ydych yn ei gwario
- Prynu 9 a chael y 10fed am ddim ar ddiodydd poeth, diodydd oer, smwddis neu ddarnau o ffrwythau ffres
Ar ben hyn oll, gallwch arbed hyd yn oed yn rhagor ar y cynigion canlynol:
- Bwyd Twym ar Gyllideb Geiniog a Dimai – prydau poeth am bris gostyngol bob dydd Mawrth yn ystod y tymor pan fyddwch chi'n dod â'ch cynhwysydd amldro eich hun (mae'r Telerau ac Amodau i’w gweld ar Instagram @cufoods)
- Clwb CUFoods – ychwanegwch arian ymlaen llaw a datgloi gostyngiadau arbennig drwy gynllun prydau bwyd hyblyg.
Cewch wybod rhagor am yr holl ffyrdd y gallwch chi arbed arian ar y campws yma.
Beth amdani, felly? Manteisiwch ar ein cynigion bwyd heddiw.