Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno ein caffi newydd, Paned yn Sbarc

Y lle perffaith i gwrdd, cydweithio a bwyta bwyd ffres

Mae ein caffi newydd, Paned yn Sbarc, yn sbarc|spark, ac mae’n adlewyrchu awyrgylch arloesol yr adeilad.

Gallwch chi eistedd, wedi'ch amgylchynu gan ffenestri mawr, ac ymlacio gyda choffi Masnach Deg o ansawdd barista neu de arbennig i gael eich cefn atoch. Neu gwrdd gyda’ch ffrindiau, cyd-fyfyrwyr a chydweithwyr ar un o'r byrddau crwn i rannu syniadau, ysbrydoli'ch gilydd a chydweithio wrth gael bwyd.

I wneud eich paned hyd yn oed yn well, rydyn ni’n rhoi 10% o bob bag o goffi i elusennau digartrefedd yng Nghaerdydd, gan gefnogi'r gymuned leol drwy ariannu prydau, swyddi a chartrefi i'r rhai mewn angen.

Oes chwant bwyd arnoch chi? Dewch i flasu amrywiaeth o fwyd poeth neu oer wedi'i wneud gyda chynhwysion ffres pob dydd i danio'ch corff. Gallwch chi ddewis o blith paninis, rholiau, tatws pob a saladau amrywiol ar gyfer cinio, a nifer o opsiynau figan a llysieuol, ynghyd â’n cynigion cinio blasus. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o fyrbrydau os oes angen hwb bach arnoch chi.

Os ydych chi angen cinio maethlon, byrbryd cyflym neu ddiod poeth, mae gan Paned yn Sbarc ddigon o opsiynau iachus, amrywiol a llawn maeth at ddant pawb.

Galwch heibio heddiw i weld drosoch eich hun!

Latest articles

Bwyd figan a llysieuol ar y campws

Opsiynau sy’n seiliedig ar blanhigion ym Mhrifysgol Caerdydd

Bwyd am bris gostyngol ar gael drwy Too Good To Go

Cyfle i leihau gwarged bwyd ac arbed arian

Manteisiwch ar ein cynigion bwyd

Dewisiadau rhesymol a blasus dros ben

Fe enillon ni yng Nghystadlaethau TUCO 2025!

Buddugoliaeth ddwbl i Fwyd Prifysgol Caerdydd