Bwyd am bris gostyngol ar gael drwy Too Good To Go

Cyfle i leihau gwarged bwyd ac arbed arian
Hoffech chi gael eich hoff brydau bwyd am bris rhatach? Os felly, ewch ati i lawrlwytho Too Good To Go – yr ap sy'n eich galluogi i helpu’r blaned a chael bargen ar yr un pryd!
Beth yw hwn?
Ap rhad ac am ddim sy'n eich galluogi i brynu bwyd sydd heb ei werthu o gaffis, bwytai a siopau bwyd am bris isel dros ben. Yn lle gadael i fwyd da gael ei wastraffu pan mae’r mannau gwerthu bwyd hyn yn cau am y dydd, maen nhw'n cael eu rhoi mewn 'Bagiau Hud'...a dyna lle rydych chi'n chwarae eich rhan.
Sut mae’n gweithio:
- Lawrlwythwch yr ap (mae ar gael ar iOS ac Android)
- Chwiliwch ar sail lleoliad i weld pa leoedd gwerthu bwyd ar y campws neu gerllaw sy'n cynnig Bagiau Hud
- Archebwch eich bag drwy'r ap
- Casglwch y bag ar yr amser a nodir, a mwynhewch

Drwy ddefnyddio ap Too Good To Go, gallwch gael Bag Hud am gyn lleied â £3, ac mae’n llawn danteithion a fyddai’n ddwbl y pris fel arfer!
Hyd yma, drwy ddefnyddio Too Good To Go, rydych chi wedi helpu i arbed…
1,472 o brydau bwyd rhag cael eu gwastraffu ac wedi helpu i osgoi bron 4 tunnell o allyriadau carbon!
Beth am i ni barhau i gynyddu'r niferoedd hyn gyda'n gilydd?
Ewch ati i arbed arian, rhoi cynnig ar fwyd newydd a helpu i leihau faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu, a gallwch wneud y cyfan heb orfod coginio. Felly, y tro nesaf y byddwch chi'n mynd adref yn llwglyd, beth am gael cip ar yr ap yn gyntaf?