Ymchwil
Mae'r Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch wedi helpu i leihau troseddu a chynyddu diogelwch drwy ganfod problemau a darparu datrysiadau ymarferol ar sail ymchwil drylwyr, sy'n llywio polisi ac ymarfer yn uniongyrchol.
Rydym ni'n gweithio ar sail heriau gan ryngweithio'n rheolaidd a chlos gyda llunwyr polisïau ac ymarferwyr i fodloni eu hanghenion am dystiolaeth a dealltwriaeth gref i lywio eu penderfyniadau.
Themâu
Mae ein gwaith yn seiliedig ar bedair thema allweddol:
- Gwyddor yr heddlu: Plismona bro, adnabod wynebau awtomatig, troseddau arwyddo a datblygu dulliau plismona sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Cymwysiadau diogelwch ac amddiffyn cyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisial: Dadansoddeg reddfol, dealltwriaeth ragweledol o sefyllfaoedd ac esblygu systemau dynol.
- Niwed yn seiliedig ar drais ac alcohol: Lleihau niwed alcohol, atal trais a lleihau trais.
- Dadansoddeg Ymddygiadol Ddigidol a Data Ffynhonnell Agored: Gweithrediadau dylanwadu ac ymyrryd ar wybodaeth gan wladwriaethau gelyniaethus, cymorth gwrthderfysgaeth ac asesu canlyniadau digwyddiadau terfysgol.
Ar draws y themâu amrywiol hyn, mae'r Sefydliad yn tynnu ar ystod eang o arbenigedd gan ffurfio ymagwedd hynod o ryngddisgyblaethol. Mae cefndir ein hymchwilwyr yn cynnwys y gwyddorau cymdeithasol, iechyd cyhoeddus, cyfrifiadureg, seicoleg, newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, y gyfraith, ieithyddiaeth fforensig, mathemateg a busnes, gan gydweithio gydag arbenigwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat.
Effaith
Mae ein hymchwil wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar sut mae'r heddlu, llywodraethau ac asiantaethau diogelwch yn ymateb i'r cyfleoedd a'r heriau sy'n codi yn sgil yr amgylchedd gwybodaeth newydd a'i dechnolegau aflonyddgar cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys:
- hysbysu Adolygiad Barnwrol yn yr Uchel Lys am fanteision a chyfyngiadau systemau Adnabod Wynebau Awtomatig i'r heddlu
- cyflwyno tystiolaeth am ddylanwad ymgyrchoedd ffug-wybodaeth gwladwriaethau tramor yn Ewrop
- cyfrannu cynnydd mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peiriannol a gwyddor rhwydwaith i raglen amddiffyn raddfa fawr lywodraethol y DU/UDA.
Ochr yn ochr â hyn, mae ein hymchwil iechyd cyhoeddus wedi cael effaith byd-eang ar bolisi ac ymarfer, fel creu model lleihau trais sydd wedi'i gyflwyno ar draws y DU ac yn fyd-eang, a ffurfio deddfwriaeth i fynd i'r afael â cham-drin alcohol.