Amdanom ni
Mae’r Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch yn cynnull arbenigeddau rhyngddisgyblaethol sylweddol Prifysgol Caerdydd mewn ymchwil trosedd a diogelwch.
Rheoli trosedd a diogelwch yn effeithiol yw un o’r heriau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu yn y byd sydd ohoni. Ein hymateb i'r her hon yw sicrhau tystiolaeth gadarn a dealltwriaeth gan ddefnyddio methodolegau arloesol.
Rydym ni wedi sicrhau bri rhyngwladol i'n harloesiadau cysyniadol, methodolegol ac empirig sy'n helpu i ymdrin â phroblemau troseddu a diogelwch lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Unedau ymchwil
Trefnir ein gwaith mewn pedair uned ymchwil allweddol:
- Mae gan Sefydliad y Prifysgolion ar Wyddorau'r Heddlu (UPSI) arbenigedd penodol mewn pynciau sy'n ymwneud â chyflawni plismona a rheolaeth gymdeithasol.
- Mae'r grŵpDadansoddeg a Gwyddor Gwybodaeth Wasgaredig (DAIS) yn gyd-fuddsoddiad tymor hir gan y DU-UDA mewn ymchwil cyfrifiadureg sylfaenol i gefnogi cyrchoedd clymbleidiol aml-bartner.
- Mae gan y Grŵp Ymchwilio i Drais (VRG) record sefydledig o gyfuno dulliau sylfaenol a chymwysedig i lywio gwaith i ddatblygu polisïau ac arferion i fynd i'r afael â niwed yn gysylltiedig ag alcohol a thrais.
- Mae’r rhaglen Ymchwil am Ddadansoddi Cyfathrebiadau o Ffynonellau Agored, (OSCAR)yn archwilio effaith aflunio digidol a thwyll a gyfathrebir drwy'r cyfryngau cymdeithasol gyda ffocws penodol ar ffug-wybodaeth.
Mae'r grwpiau hyn wedi sicrhau effaith sylweddol ar bolisi ac ymarfer drwy gyd-ddiffinio problemau, cyd-gynllunio ymatebion a chyd-gyflenwi datrysiadau gyda'n partneriaid.
Mae ein perthnasoedd cydweithredol hirdymor yn cynnwys:
- Heddlu De Cymru
- Y Swyddfa Gartref
- Byddinoedd y DU ac UDA
- IBM
- GIG
- Y Rheolaeth Gwrthderfysgaeth Genedlaethol
- Gwasanaeth Gweithredu Allanol Ewrop.