Ewch i’r prif gynnwys

Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Kayleigh McLeod headshot
Kayleigh McLeod, Communications and Engagement Manager

Mae Kayleigh wedi ymrwymo i adrodd straeon y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol ac mae hi’n taflu goleuni ar y gwahaniaeth y maent yn ei wneud. Ei nod yw cyfathrebu mewn modd sy’n annog ymgysylltiad a chysylltiadau ystyrlon yn ogystal â hyrwyddo rhannu gwybodaeth.

Kayleigh yw’r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu dros yr Uned Economi Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Kayleigh yn arwain strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu i Clwstwr, sef rhaglen arloesedd sector sgrîn £10 miliwn i dde Cymru, a Chaerdydd Creadigol, rhwydwaith creadigol ar draws y ddinas o hyd at 4,000 o aelodau.

Mae Kayleigh yn arbenigo mewn strategaeth cynnwys digidol a chreu cynnwys, ac mae ganddi gofnod cadarn o gyflwyno twf organig ac ymwybyddiaeth brand ar draws sawl platfform drwy adrodd straeon go iawn mewn modd creadigol. Mae ganddi brofiad o reoli timau, rhanddeiliaid a chyllidebau yn ogystal â ffurfio partneriaethau a pherthnasau â chyllidwyr, llunwyr polisïau a chyrff diwydiannol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Hi yw cyflwynydd podlediad Get A ‘Proper’ Job, lle mae gweithwyr creadigol yn gweithio gyda’i gilydd i rannu gwybodaeth newydd a thrafod y materion sydd o bwys, ac yn aml yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn ogystal â chynrychioli’r Uned Economi Creadigol yn y cyfryngau.

Yn 2020, cafodd Kayleigh Ddiploma PR Proffesiynol gan y Sefydliad Siartredig dros Gysylltiadau Cyhoeddus (CIPR). Yn 2018, hi oedd derbynnydd gwobr Cyfathrebwr Ifanc Rhagorol (Arian) yng Ngwobrau Balchder Cymru CIPR.

Cyn gweithio mewn cysylltiadau cyhoeddus, roedd Kayleigh yn newyddiadurwr ar-lein ac yn ddarlledwr ar-lein i STV yn Glasgow.