Ewch i’r prif gynnwys

Galluogi arloesi

Beth sy'n digwydd pan ydych chi'n uno arbenigwr ar weithiau Robert Louis Stevenson gyda thîm deinamig sy'n creu gemau cyfrifiadurol byw? Neu ymchwilydd sydd â diddordeb yn y cyfryngau cyfranogol gyda chwmni sy'n arbenigo mewn ymgysylltu ymdrochol?  

Mae'r parau annhebygol hyn, a greuwyd gan y prosiect REACT, wedi galluogi ein hacademyddion i weithio gyda diwydiannau creadigol mewn ffyrdd newydd ac annisgwyl, gan wthio ffiniau ymchwil y celfyddydau a'r dyniaethau. Darllenwch mwy am REACT.

Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu'r math hwn o gyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr a staff ac economi greadigol y ddinas.

Mae REACT yng Nghymru yn un enghraifft yn unig o nifer o fentrau diweddar sy'n archwilio'r economïau digidol yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae Rhwydwaith Cyfnewidfa Greadigol Cymru (CEWN) a Nesta wedi datblygu gwaith yn y maes hwn, gan ddangos ymrwymiad clir Cymru i ddatblygu cyfnewid gwybodaeth arloesol yn yr economi greadigol. 

Yn ystod 2015, bydd REACT yng Nghymru yn canolbwyntio ar barhad nifer o'n prosiectau cydweithredol gan weithio gyda Watershed ym Mryste i ddathlu ein llwyddiannau gyda digwyddiadau a gŵyl arbennig. 

Bydd tîm yr Economi Greadigol yn adeiladu ar REACT, gan ffurfio perthnasau newydd a pharhau i ddatblygu cyfnewid gwybodaeth rhwng Prifysgol Caerdydd ac economi greadigol y Brifddinas. 

Fel rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol i gefnogi arloesedd yn y celfyddydau a'r dyniaethau, rydym yn cydweithio gyda phartneriaid, fel Canolfan Celfyddydau Chapter i greu hybiau ymchwil ac arloesi. Bydd y mannau yma yn rhoi cyfle i fyfyrwyr prifysgol, graddedigion ac ymchwilwyr academaidd i weithio mewn ffyrdd arloesol gyda busnesau a sefydliadau creadigol.  

Am fwy o wybodaeth trwy gyfrwng y Saesneg am REACT ewch i react-hub.org.uk