Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Xiamen

 Llun allanol o Brifysgol Xiamen
Prifysgol Xiamen yn Tsieina

Prifysgol Xiamen (XMU), a sefydlwyd yn 1921, oedd y brifysgol gyntaf i gael ei sefydlu gan aelod blaenllaw o’r gymuned Tsieineaidd tramor – Mr Tan Kah Kee – yn hanes addysg fodern yn Tsieina. Mae XMU wedi'i rhestru ymhlith prifysgolion blaenllaw Tsieina yn rhan o Brosiect 211, Prosiect 985 a’r Fenter Dosbarth Cyntaf Dwbl, a lansiwyd gan lywodraeth Tsieina i helpu prifysgolion dethol i ddod yn brifysgolion o safon fyd-eang. Gwyliwch fideo XMU ar YouTube.

A hithau’n cynnwys ysgol i raddedigion, chwe is-adran academaidd (sy'n cynnwys 33 o ysgolion a cholegau) ac 16 o sefydliadau ymchwil, mae gan XMU bron i 44,000 o fyfyrwyr amser llawn – hynny yw, mwy na 20,000 o israddedigion, 18,000 o ôl-raddedigion a 5,000 o ymgeiswyr doethurol. Ar hyn o bryd, mae cyfadran XMU yn cynnwys mwy na 3,000 o athrawon ac ymchwilwyr amser llawn, y mae 32 ohonyn nhw’n aelodau o Academi Tsieina ar gyfer y Gwyddorau neu Academi Peirianneg Tsieina.

Mae XMU wedi meithrin partneriaethau â 259 o brifysgolion mewn gwledydd a rhanbarthau sy’n cynnwys y DU, UDA, Siapan, Ffrainc, Rwsia ac ati, yn ogystal â Hong Kong a Macao (rhanbarthau gweinyddol arbennig Tsieina) a Taiwan, Tsieina. Mae wedi sefydlu 15 Sefydliad Confucius ar y cyd â phrifysgolion a sefydliadau tramor. Un ohonyn nhw yw Sefydliad Confucius Caerdydd, a sefydlwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.

Prifysgol Xiamen Malaysia (XMUM), a sefydlwyd yn 2014, yw'r campws tramor cyntaf a sefydlwyd gan brifysgol Tsieineaidd enwog a’r campws cangen cyntaf gan brifysgol Tsieineaidd ym Maleisia. XMUM yw un o’r perlau ar Lwybr Sidan Arforol y 21ain Ganrif. Derbyniodd XMUM ei myfyrwyr cyntaf ym mis Chwefror 2016, ac mae ganddi fwy na 6,000 o fyfyrwyr o 33 o wledydd a rhanbarthau erbyn hyn.

Mae XMU yn swatio rhwng bryniau gwyrdd a'r môr glas, ac yn ôl y sôn, XMU yw prifysgol harddaf Tsieina oherwydd ei chyfleusterau addysg rhagorol a'i hamgylchedd hardd.

A hithau wedi'i hysbrydoli drwy gydol ei hoes gan yr arwyddair “Pursue Excellence, Strive for Perfection”, mae XMU wedi ymrwymo i feithrin pobl dalentog a disglair, a thrwy hynny wneud cyfraniadau mawr i ffyniant y wlad, adfywiad mawr cenedl Tsieina a chynnydd dynoliaeth yn gyffredinol. Mae XMU yn dod yn brifysgol o safon fyd-eang sy’n cael ei chanmol yn rhyngwladol fwy a mwy.