Ewch i’r prif gynnwys

Trosolwg

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cynhadledd Ymchwil ac Addysg Gwaith Cymdeithasol ar y cyd yw'r unig gynhadledd academaidd yn y DU sy'n ymdrin â'r maes gwaith cymdeithasol cyfan.

Nod y gynhadledd deuddydd hon yw dod ag academyddion, llunwyr polisi, ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau (gan gynnwys gofalwyr) ynghyd.

Bydd y gynhadledd yn 2021 yn ymdrin â gwaith cymdeithasol yn ei holl ffurfiau amrywiol gydag ystod o siaradwyr wedi'u cadarnhau i adlewyrchu'r amrywiaeth hon.

Siaradwyr a gadarnhawyd

  • Prif siaradwr Claudia Bernard (Goldsmiths, Prifysgol Llundain) - 'Addysg groestoriadol a gwaith cymdeithasol’.
  • Trafodaeth banel am waith cymdeithasol a gwleidyddiaeth gyda Mark Drakeford (Prif Weinidog Cymru) a Hilary Armstrong (cyn-Weinidog Llywodraeth y DU) a Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.
  • Prif anerchiad gan Jadwiga Leigh (Prifysgol Caerhirfryn) a Mellisa Hempenstall (Arweinydd Mentora Cymheiriaid) o'r prosiect New Beginnings - ‘Cynghreiriau rhwng prifysgolion a defnyddwyr gwasanaethau’.
  • Prif siaradwr Alisoun Milne (Prifysgol Caint) - ‘Ailfeddiannu’r rôl ‘gymdeithasol’ wrth ofalu am bobl hŷn a’u cefnogi’.

Galwad am ddigwyddiadau ymylol JSWEC

Mae digwyddiad ymylol yn JSWEC nid yn unig ar amserlen wahanol i bapurau cynhadledd, ond mae hefyd at bwrpas gwahanol. Mae papurau cynhadledd ar gyfer cyflwyno dadansoddiad academaidd, fel arfer yn ymwneud â phrosiect ymchwil neu fenter addysgol. Gallai digwyddiad ymylol fod naill ai'n ymwneud ag ymgyrch neu lobïo (er enghraifft, pobl sy'n poeni am breifateiddio gofal cymdeithasol) neu ar gyfer trafodaeth fwy cyffredinol ar fuddiannau academaidd a rennir (er enghraifft, pobl sydd eisiau sefydlu rhwydwaith ymchwil ar arsylwi ymarfer yn uniongyrchol).

Bydd nifer cyfyngedig o slotiau amserlen ar gyfer digwyddiadau ymylol a fydd yn cael eu cynnal amser cinio neu’n gynnar y nos y tu allan i brif amserlen y gynhadledd. Dim ond pobl sydd wedi cofrestru i fynd i'r gynhadledd all fynd i’r digwyddiadau ymylol. Os oes mwy o geisiadau am ddigwyddiadau ymylol nag y gellir eu cefnogi heb or-lwytho'r amserlen, bydd pwyllgor JUC SWEC yn eu blaenoriaethu.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod digwyddiadau ymylol yn amserol, mae'r dyddiad cau ar gyfer cynigion yn gymharol agos at y gynhadledd, 16 Ebrill 2021.  Ebostiwch grynodeb heb fod yn fwy na 200 gair am ddigwyddiad ymylol arfaethedig at JSWEC@caerdydd.ac.uk.