Ewch i’r prif gynnwys

Cofrestru

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae’r cyfnod cofrestru ar gyfer y Gynhadledd ar agor.

Cofrestrwch ar gyfer y Gynhadledd Haelioni.

Ffioedd

Cofrestru ‘deryn cynnar

Mae cofrestru ‘deryn cynnar yn £260 tan 31 Mawrth 2018.

Cofrestru hwyr

Y ffi gofrestru lawn yw £295 o 1 Ebrill 2018.

Mae’r ffi gofrestru’n cynnwys derbyniad diodydd ddydd Mercher 27 Mehefin a chinio’r gynhadledd ddydd Iau 28 Mehefin.

Cyfraddau diwrnod

Mae cyfraddau diwrnod ar gael o 1 Ebrill 2018 ymlaen:

  • Dydd Mercher 27 Mehefin 2018 (yn cynnwys derbyniad diodydd y gynhadledd): £135
  • Dydd Iau 28 Mehefin 2018 (ddim yn cynnwys cinio’r gynhadledd): £135
  • Dydd Iau 28 Mehefin 2018 (gan gynnwys cinio'r gynhadledd): £175
  • Dydd Gwener 29 Mehefin 2018 (hanner diwrnod) £70.

Cyfradd myfyrwyr

Y ffi gofrestru ar gyfer myfyrwyr yw £40.

Mae'r ffi gofrestru'n cynnwys hawl i fynd i bob sesiwn (ar gyfer myfyrwyr sydd am fynd heb gyflwyno papur/ffilm/gweithdy).

Noder nad yw hyn yn cynnwys cinio'r gynhadledd.

Tocynnau cinio'r gynhadledd

Cynhelir cinio'r gynhadledd ddydd Iau, 28 Mehefin.

Mae tocynnau ar wahân ar gael ar gyfer cynadleddwyr sydd am ddod â gwestai neu'r rhai sy'n dod i'r gynhadledd fel myfyriwr.

Mae tocynnau'n £40 yr un. Dewiswch 'Cinio'r Gynhadledd' ar y ffurflen archebu cofrestriad os hoffech brynu'r rhain fel opsiwn ychwanegol.

Llety

Mae gennym ddau opsiwn o ran llety:

Neuadd Colum Prifysgol Caerdydd (ystafell en-suite sengl) ar gyfer arhosiad 2 noson o leiaf.

Hotel Indigo, Caerdydd (Ystafell wely maint Brenhines) ar gyfer arhosiad 3 noson o leiaf.