Ewch i’r prif gynnwys

Galwad cynhadledd

Haelioni yw’r weithred o roi neu rannu mwy nag sydd ei angen. Mae’n gysylltiedig â rhoi, dewrder, cymwynas a derbyn ac yn arddangos natur doreithiog a rhadlon.

Mae Alberto Pérez-Gómez yn ysgrifennu am boïesis mewn pensaernïaeth fel rhywbeth sy’n ‘symbol o’r math o greadigaethau technegol sy’n briodol i’r ddynol-ryw: creadigaeth farddonol o’r safbwynt ei bod yn anelu at fwy na diogelu bywyd’. Mae Eileen Grey yn fwy penodol, gan ddatgan ‘nad peiriant byw yw tŷ. Mae’n arwydd o barhad dyn, ei ledaeniad, ei darddiad ysbrydol’. Mae George Bataille yn awgrymu bod ‘popeth yn dod at ei gilydd i gysgodi’r symudiadau sylfaenol sy’n dueddol o adfer cyfoeth i’w swyddogaeth wreiddiol, i roi, i wastraffu heb dalu’n ôl...’.

Gan ddathlu a chwestiynu potensial pensaernïaeth am haelioni, mae’r alwad hon am bapurau yn gwahodd academyddion ac ymarferwyr creadigol i archwilio ffyrdd y mae pensaernïaeth yn anelu at, neu lle mae disgwyl iddi, roi mwy nag sydd ei angen. Gellid ystyried hyn o fewn y cyd-destun economaidd cyfredol o galedi neu o fewn cyd-destun hanesyddol ehangach o ddisgyblaeth sydd yn aml yn gweithio o fewn fframweithiau sy’n canolbwyntio ar gost a mesur meintiol.

Croesewir myfyrdodau sy’n archwilio themâu haelioni yn feirniadol mewn perthynas â phensaernïaeth a meysydd cysylltiedig, p’un ai a ydynt o safbwynt cysyniadol neu ddamcaniaethol, wedi’u sefydlu mewn prosesau beunyddiol a disgwyliadau o ran arferion, neu’n rhoi ystyriaeth i gaffael, rheoliadau a pholisi.

Mae’r themâu posibl yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i:

Mae penseiri wedi dadlau ers cryn amser fod dylunio da yn gofyn am werthfawrogiad ansoddol yn ogystal â meintiol, a’i fod yn mynd y tu hwnt i faint gofod neu fanylebau deunyddiau, er enghraifft. Wrth i’r blynyddoedd basio, mae agweddau ynghylch mesur gwerth ac arfer da yn cael eu hail-ddehongli ac mae mathau newydd o haelioni yn dod i’r amlwg.

Mae’r thema hon yn galw am bapurau sy’n edrych ar sut y cyflawnir y cysyniad o haelioni a sut mae’n newid yn yr amgylchedd adeiledig, boed drwy archwilio ffurfiau newydd o werth cyfathrebol, dylunio tlws neu ddulliau eraill, amgen o fesur adeiladwaith o’r fath.

Mae Cyfarwyddwyr Artistig yr 16eg Arddangosfa Pensaernïaeth Ryngwladol yn Fenis (2018) wedi cyhoeddi y bydd yr ŵyl yn ymwneud â ‘haelioni, meddylgarwch ac awydd i ymgysylltu’. Yn y cyfamser, holodd galwad y Cyngor Prydeinig am gynigion (2017): “Sut gall pensaernïaeth Brydeinig arddangos ‘haelioni a meddylgarwch’ tuag at ei defnyddwyr, ei dinasyddion a’r cyhoedd?”

Os yw cyflwr yr amgylchedd adeiledig yn cael ei lywodraethu gan archwaeth a phrosesau caffael datblygwyr, sut y gall haelioni gael ei ymsefydlu’n well yn y gwaith o gomisiynu, darparu neu berchenogi pensaernïaeth a gofod cyhoeddus?

Yng ngwagle anweithgarwch y sector cyhoeddus, galwyd ar benseiri (ymysg eraill) i gefnogi datblygu, adfywio a dyfeisio a arweinir gan y gymuned. Mae prosiectau o’r fath yn aml yn dilyn rhaglenni anghonfensiynol, ac yn ailddiffinio rôl y pensaer - fel hwylusydd, cyfryngwr neu ymgynghorydd.

Gwahoddir papurau sy’n beirniadu’r cyfleoedd, y risgiau a’r goblygiadau o haelioni o ran cyd-gynhyrchu a dylunio cyfranogol.

Mae pensaernïaeth yn cael ei beirniadu’n rheolaidd am fod yn elitaidd ac am ganolbwyntio’n ormodol ar gyfran fach iawn o boblogaeth y byd. Mae penseiri fel Dominic Stevens ac Alejandro Aravena wedi manteisio ar y cyfle i rannu gwybodaeth mynediad-agored dros y rhyngrwyd, gan ddarparu dyluniadau tai neu dempledi fel adnoddau agored sydd ar gael yn rhydd.

Er ei bod yn aneglur pa effaith y bydd y ‘rhoddion’ hyn yn ei chael ar yr argyfwng tai byd-eang, maent yn arwydd o haelioni’r ysbryd sydd â’r potensial i gyrraedd corneli pellaf y blaned. Rydym yn gwahodd papurau sy’n archwilio materion yn ymwneud â pherchenogaeth dylunio, neu sy’n nodi a gwerthuso pensaernïaeth neu ddylunwyr sy’n gweithio y tu allan i ffiniau sefydledig neu ddiffiniadau confensiynol.

Yn erbyn cefndir o ansicrwydd gwleidyddol-gymdeithasol, mae llawer o ymarferwyr yn ymateb yn uniongyrchol i faterion dinesig a chymdeithasol drwy brosiectau ac ymchwil y maent yn eu cychwyn eu hunain. Mae trafodaethau ynghylch addysg bensaernïol, gwerth dysgu sy’n seiliedig ar ymarfer ac effaith ffioedd dysgu wedi cyfrannu at ymchwydd mewn prosiectau hunangyfeiriedig ymysg ymarferwyr ifanc. Mae prosiectau o’r fath yn aml yn ystwyth, yn annibynnol ac yn archwiliadol.

Rydym yn gwahodd papurau gan ôl-raddedigion, ymarferwyr ifanc creadigol, tiwtoriaid ac academyddion sydd ar gam cynnar yn eu gyrfa i ddathlu syniadau sy’n cynrychioli cymunedolrwydd, gofal dwyochrog a rhoi.

Cyhoeddi papurau

Yn dilyn cyhoeddiadau cynadleddau blaenorol Ysol Pensaernïaeth Cymru, sef Cyntefig, Ansawdd ac Economi, ein nod yw cyhoeddi llyfr wedi’i olygu o bapurau dethol yn dilyn y gynhadledd yn ogystal â detholiad o bapurau yng nghyfnodolyn Architecture Research Quarterly Gwasg Prifysgol Caergrawnt