Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Burwalls 2021

Cynhadledd FLynyddol ar gyfer Athrawon Ystadegau ym meysydd Meddygaeth a’r Gwyddorau Iechyd Perthynol.

Mae Burwalls yn gyfle gwych i rannu a rhwydweithio gydag athrawon ystadegau meddygol eraill sy’n addysgu myfyrwyr meddygaeth israddedig a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Cynhadledd flynyddol yw Burwalls gyda’r nod o annog a rhoi’r sgiliau i’r rhai sy’n gyfrifol am addysgu ystadegau meddygol a meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fyfyrwyr neu weithwyr proffesiynol mewn meddygaeth, iechyd a gofal cymdeithasol mewn Addysg Uwch, y GIG, neu sefydliadau tebyg yn y DU.

Coronavirus (COVID-19)

Oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), bydd y gynhadledd ar ffurf gweminar byr, a gynhelir dros zoom, ar 6 Gorffennaf 2020. Mae cofrestru am ddim. Mae gennym rywfaint o gyfraniadau gwych a byddwn yn cynnwys amser ar gyfer trafodaethau agored gyda'r cyfranogwyr i gyd. Rydym yn dal i obeithio eich croesawu yng Nghaerdydd ar gyfer Burwalls 2021. Mwy yn y man, a nodwch y dyddiadau yn eich dyddiadur ar gyfer y flwyddyn nesaf: 5-7 Gorffennaf 2021.

Mae Burwalls yn gyfle gwych i rannu a rhwydweithio gydag eraill.

Bydd rhaglen y gynhadledd yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yn 2021.

Rhannwch eich syniadau am gyflwyniadau yn Burwalls gyda ni.