Ewch i’r prif gynnwys

Allgymorth seiberddiogelwch

Rydym yn cynnig gweithgareddau allgymorth ar gyfer pobl ifanc a'r cyhoedd, i godi ymwybyddiaeth ynghylch bygythiadiadau seiber a chyflwyno sgiliau i hyrwyddo diogelwch ar-lein - mentrau yn unol ag agenda Cenhadaeth Ddinesig y brifysgol.

CyberFirst

Mae CyberFirst yn rhaglen o gyfleoedd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) sy’n helpu pobl ifanc 11-17 oed i ymchwilio i’w brwdfrydedd ynghylch technoleg drwy eu cyflwyno i fyd chwim seiberddiogelwch.

Ers 2018, rydyn ni wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau Anturiaethwyr CyberFirst bob blwyddyn. Mae pob un yn ddiwrnod llawn o weithgareddau i fyfyrwyr ysgol uwchradd 13-14 oed (blynyddoedd 8-9) yng Nghymru a Lloegr. Ym mis Chwefror 2023, cynhalion ni Rownd Derfynol Merched CyberFirst yng Nghymru, a’r tîm buddugol oedd Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff yng Nghasnewydd yn y llun uchod. Mae'r Brifysgol yn falch o fod â statws Cydymaith CyberFirst.

O ystyried y bwlch parhaus o ran sgiliau ym maes seiberddiogelwch yn fyd-eang, mae'n hollbwysig sefydlu a chynnal talent newydd yn barhaus yn y maes hwn. Mae Canolfan Addysg Seiberddiogelwch Caerdydd yn falch iawn o gefnogi'r rhaglen CyberFirst hirsefydledig a llwyddiannus hon. Ei chenhadaeth yw rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc ddysgu am gyfrifiadureg, technoleg ddigidol a seiberddiogelwch – a chefnogi pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am lwybrau astudio a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Digwyddiadau allgymorth

Yn 2021-2022, cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau allgymorth; ymhlith y rhain roedd gweithdai seiber ymwybyddiaeth ar gyfer y cyhoedd, a Diwrnod Ymwybyddiaeth o Yrfaoedd ym Maes Seiberddiogelwch ar gyfer myfyrwyr TGAU, Safon Uwch a myfyrwyr Colegau Addysg Bellach. Roedden ni'n gallu cynnig y gweithgareddau hyn diolch i gyllid Arloesedd i Bawb.

Cefnogwyd yr holl ddigwyddiadau gan ein partneriaid diwydiannol, yn eu plith Airbus, Tîm Hacio Moesegol a Seiberddiogelwch PricewaterhouseCoopers (PwC), Tarian RECO (Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol), a Chanolfan Seibergadernid Cymru.

Mae'r recordiadau o’r digwyddiadau hyn a deunyddiau cysylltiedig ar gael ar gais.

Gweminar Gweithdy Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch

(Recordiad ar gael ar gais)

Cynulleidfa Darged: Y Cyhoedd

Nod y gweminar yw codi ymwybyddiaeth ynghylch sut i gadw'n ddiogel ar-lein, gan esbonio ffyrdd o ddefnyddio'r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael ar y rhyngrwyd, gan fod yn ymwybodol ar yr un pryd o faterion diogelwch a phreifatrwydd. Ymhlith y pynciau dan sylw mae:

  • cyfrineiriau cryf
  • dilysu aml-ffactor
  • diweddariadau o ran diogelwch/meddalwedd a phatsys
  • gwe-rwydo/SMS-rwydo
  • y cyfryngau cymdeithasol ac ôl-troed digidol positif
  • preifatrwydd a rheoliadau diogelu data cyffredinol

Diwrnod Ymwybyddiaeth o Yrfaoedd ym Maes Seiberddiogelwch

(Recordiad ar gael ar gais)

Cynulleidfa Darged: Athrawon a myfyrwyr TGAU, Safon Uwch ac AB

Mae ein digwyddiad Ymwybyddiaeth o Yrfaoedd ym Maes Seiberddiogelwch yn helpu pobl ifanc i ddeall yr ystod eang o gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y sector hwn. Mae i seiberddiogelwch ran hanfodol yn y byd digidol modern sy'n esblygu'n gyflym, ac mae dewis deinadol o yrfaoedd ar gael ym maes seiberddiogelwch. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd â sgiliau technegol a di-dechnegol o ystod amrywiol o gefndiroedd.

Yn y recordiad o’r digwyddiad ceir cyflwyniadau byr ynghylch gyrfaoedd gan arbenigwyr seiberddiogelwch, a hefyd trafodaeth banel ynghylch gyrfaoedd ym maes seiberddiogelwch gydag arbenigwyr o Airbus, PwC, Tarian a Chanolfan Seibergadernid Cymru.

Cyswllt

Dr Yulia Cherdantseva

Dr Yulia Cherdantseva

Research Fellow/Associate

Email
cherdantsevayv@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 0014