Cynhadledd i Athrawon ac Ymgynghorwyr Gyrfaol
-
Dydd Mercher 24 Mai 2023, 08:45 - 15:30
Mae'r Gynhadledd i Athrawon ac Ymgynghorwyr Gyrfaol yn cynnig datblygiad proffesiynol sy’n rhad ac am ddim. Dyma gyfle i ddysgu rhagor am dderbyniadau israddedig yn yr unig brifysgol sydd gan Grŵp Russell yng Nghymru. Bydd y digwyddiad undydd hwn yn cael ei gynnal ar gampws Parc Cathays ac mae wedi'i anelu at y rheini sy'n gweithio gyda disgyblion ym Mlwyddyn 12 a 13.
Cynhelir y digwyddiad yn y Prif Adeilad ac adeilad newydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, a bydd y gynhadledd yn cynnwys y canlynol:
- Yn eich iawn bwyll – iechyd meddwl myfyrwyr yn 2023 gyda’r awdur a'r arbenigwr ym maes iechyd meddwl pobl ifanc Dr Dominique Thompson
- UCAS: datblygiadau diweddar a'r 'daith i filiwn o ymgeiswyr' gan gynnwys cyngor ynghylch y newidiadau yn y broses o wneud cais i UCAS yng nghwmni Pennaeth Polisi UCAS, Ben Jordan
- Gofynnwch i'r arbenigwr – rhoi eich cwestiynau i'r panel o staff derbyn myfyrwyr a staff UCAS yn ogystal â'n myfyrwyr presennol
- astudio a gwneud cais i astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd (gan gynnwys cyngor ar y gyfres o gyfweliadau byr - MMI - a chyllid gan y GIG)
- sesiynau grŵp llai fydd yn ymdrin â phynciau megis y rhaglen ehangu cyfranogiad. Bydd y cyfle hefyd i ymweld â rhai ysgolion academaidd neu fynd ar daith o amgylch y campws dan ofal myfyrwyr (bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ein cyfleusterau a’n rhaglenni chwaraeon)
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Undergraduate Recruitment Team sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
- N/A, Y Prif Adeilad
- Plas y Parc
- Caerdydd
- CF10 3AT