Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod Economeg


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyd at 2 awr
  • Ar gael yn Gymraeg

Mae ein gweithdai Darganfod Economeg yn rhoi cipolwg ar astudio economeg ac yn cyflwyno'ch myfyrwyr i'r amrywiaeth o yrfaoedd a phrentisiaethau yn y maes.

Mae economeg yn bwnc cyffrous, ond ychydig iawn o bobl sy’n gwybod beth yw economeg mewn gwirionedd. Mae ein gweithdai wedi'u cynllunio i roi cipolwg i'ch myfyrwyr ar astudio economeg ar lefel Safon Uwch neu lefel gradd. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i wahanol yrfaoedd a phrentisiaethau a gall helpu i gyflawni Meincnodau Gatsby. Mae modd cysylltu’r gweithdai hefyd â’r cwricwlwm Mathemateg, Astudiaethau Busnes neu Ddaearyddiaeth.

Bydd ein gweithdai yn rhoi cyflwyniad i economeg i’ch myfyrwyr ac yn trin a thrafod meysydd fel:

  • anghyfartaledd
  • twf economaidd
  • prynu mewn panig
  • addysg
  • argyfwng costau byw
  • y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Sesiwn un-tro yw’r gweithdy ac un o’n myfyrwyr economeg presennol fydd yn cyflwyno. Maent wedi'u cynllunio i'w cyflwyno mewn dosbarthiadau rheolaidd y gellir eu haddasu i gyd-fynd ag amserlen eich ysgol. Gellir hefyd eu cyflwyno sawl gwaith i sawl dosbarth mewn blwyddyn.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Cardiff Business School sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Tommaso Reggiani yn reggianit@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

I gofrestru eich diddordeb a thrafod ymhellach, cysylltwch â Dr. Tommaso Reggiani.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Themâu cwricwlwm

  • TickGwyddorau Cymdeithasol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickDigwyddiad
  • TickMentora
  • TickCyflwyniad neu ddarlith
  • TickGweithdy

Diben

  • TickGyrfaoedd a chyflogadwyedd
  • TickHyrwyddo addysg uwch
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol
  • Tickundefined

Rhannwch y digwyddiad hwn