Y Prosiect Mentora ym maes Ffiseg
- Chwefror, Mawrth, Ebrill, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
- Hyd at 2 awr
- Ar gael yn Gymraeg
Myfyrwyr o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a De Cymru yw ein mentoriaid.
Mae pob un ohonynt eisoes wedi cyflawni Ffiseg Safon Uwch (neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol). Mae pob mentor wedi cwblhau dros 20 awr o hyfforddiant o ansawdd uchel sy'n archwilio'r theori fentora, "Dull Addysgu Gwerth Gwyddoniaeth" (The Science Capital Teaching Approach), ei strwythur a’i nodau. Gall mentora ddigwydd wyneb yn wyneb, neu ar-lein.
Er mwyn i'r mentora ddigwydd wyneb yn wyneb, rhaid i'r ysgol fod wedi'i lleoli o fewn 45 munud i brifysgol sy'n cymryd rhan. Gall mentoriaid fentora, hyd at ddau grŵp o 10 - 12 disgybl o flynyddoedd 9 - 11 sy'n ansicr a ydynt am astudio ffiseg ar gyfer Safon Uwch. Cynhelir un sesiwn yr wythnos am chwe wythnos a bydd seremoni wobrwyo a chydnabod ar ddiwedd y cyfnod. Cynhelir y cwrs ddwywaith y flwyddyn - fis Chwefror tan fis Ebrill a mis Hydref tan fis Rhagfyr.
Mae’r mentora’n cynnwys hunanfyfyrio cyson, datblygu sgiliau megis rhesymu gwyddonol, cyflwyno, cyfathrebu, a gweithio mewn tîm, a gweithgareddau i hyrwyddo amrywiaeth o yrfaoedd. Mae’r rhaglen wedi bod yn llwyddiannus o ran cynyddu’r tebygolrwydd y bydd merched yn dewis Ffiseg yn bwnc Lefel A ac yn dilyn gyrfaoedd sy’n ymwneud â phynciau STEM. Gweler ein gwefan am ein hadroddiadau gwerthuso ar gyfer mentora wyneb yn wyneb a rhithwir. Gwahoddir athrawon sy’n cymryd rhan i fanteisio ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) er mwyn magu eu hyder o ran addysgu ffiseg, ac addysgu ynghylch gyrfaoedd ym maes ffiseg.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Adran Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Os hoffech wneud cais ar gyfer y cwrs nesaf, anfonwch ebost atom.
physicsmentoring@caerdydd.ac.uk
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.