Ewch i’r prif gynnwys

Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a phryfed


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyd at 2 awr
  • Ar gael yn Gymraeg yn unig

Gweithgareddau rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar bryfed a heriau yn sgîl newidiadau byd-eang.

Mewn cydweithrediad â'r ysgol, gellir creu gweithgaredd ar y cyd i roi gwybod i’r myfyrwyr am bryfed a'u cyfraniad at heriau yn sgîl newidiadau byd-eang. Enghraifft o'r mathau o weithgareddau y gellir eu darparu yw:

  • sesiynau holi ac ateb ar 'fod yn wyddonydd'
  • dadleuon ar newid yn yr hinsawdd
  • gweithdy i greu dogfen friffio i Aelodau'r Senedd ar berthnasedd CoP26 i Gymru
  • dylunio pryfyn (sesiwn ragarweiniol, a bydd gweithdai cymorth yn yr ysgolion yn dilyn hyn).

Ynglŷn â'r trefnydd

Hefin Jones sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn jonesth@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Cysylltwch â mi yn uniongyrchol - Hefin Jones


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11
  • TickCyfnod allweddol pump - 16-18 oed, blynyddoedd 12-13

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickCyflwyniad neu ddarlith
  • TickGweithdy

Diben

  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickRhwydweithio
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn