Beth mae diabetes yn ei olygu i mi?
- Mai, Mehefin, Gorffennaf, Awst
- Hyd at 2 awr
I ddathlu 100 mlynedd o inswlin mewn meddygaeth rydym yn cynnig gweithdai am ddim gyda gweithgareddau celf rhyngweithiol, trafodaethau a gwyddoniaeth rithwir i hyrwyddo ymwybyddiaeth o beth yw diabetes a sut mae'n effeithio ar y bobl sy'n byw gydag ef.
Yn y gweithdai byddwn yn cyflwyno:
- cefndir beth yw diabetes
- beth mae'n ei wneud i'r corff
- sut mae'n effeithio ar fywydau pobl â diabetes.
Byddwn hefyd yn cyplysu'r digwyddiad hwn gydag arbrofion gwyddoniaeth rithwir fel mesur siwgr (glwcos) o ddiodydd pefriog a gweithgareddau celf.
Gallwn weithio gyda chi i ddod o hyd i ddyddiad ac amser i gyflwyno'r gweithdy gyda'ch dosbarth.
Manteision i ddisgyblion
Hoffem i'r holl ddosbarthiadau sy'n cymryd rhan lunio'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu am beth mae diabetes yn ei olygu iddyn nhw. Yna bydd y darluniau hyn yn rhan o'n harddangosfa gelf yn Oriel Hearth, Ysbyty Llandochau a byddant yn rhoi adborth i ni ynghylch faint a ddysgodd y dosbarth am ddiabetes.
Bydd cyfranogwyr yn ennill ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o beth yw diabetes, sut mae diabetes math 1 yn wahanol i ddiabetes math 2 a sut mae unigolion â diabetes yn rheoli eu bywydau bob dydd.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn dysgu ble mae'r pancreas wedi'i leoli, pam ei fod yn bwysig a sut mae'n gweithio i reoli glwcos o'n bwyd.
Cefnogi'r cwricwlwm Cymreig
Bydd y digwyddiad hwn yn cefnogi agweddau ar gwricwlwm Cymru gan gynnwys:
- gwyddorau bywyd
- celfyddydau mynegiannol
- iechyd a lles.
Ynglŷn â'r trefnydd
Grŵp Ymchwil Diabetes, Is-adran Heintiau ac Imiwnedd, Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Dr James Pearson yn diabetes.insulin100@gmail.com i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Anfonwch ebost atom gyda'ch diddordeb a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ddyddiad ac amser sy'n cyd-fynd â'ch amserlen addysgu. Cysylltwch â ni trwy ebost hefyd os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.