Dadfygio Siapiau (cyfrifiadureg)
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mae dadfygio yn rhywbeth rydym ni'n ei wneud trwy'r amser mewn cyfrifiadureg. Dyma'r broses o weithio trwy gôd a thrwsio unrhyw gamgymeriadau neu wneud gwelliannau.
Mae gallu dadfygio yng nghyd-destun cyfrifiadureg yn bwysig iawn, gan ei fod yn canfod problemau gyda'r rhaglen gyfrifiadurol all ei stopio rhag gweithio'n effeithiol. Mae hyn hefyd yn golygu bod ein rhaglenni'n gweithio’n iawn.
Mae'r adnodd hwn yn weithgaredd syml, heb gyfrifiadur, i helpu disgyblion i ddeall y broses dadfygio.
Lawrlwythwch y pecyn gweithgareddau Dadfygio Siapiau (PDF).
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Cheryl McNamee-Brittain yn mcnamee-brittainc@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim