Golwg newydd ar daenu ar wely’r mor
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
Rydym wedi cynhyrchu adnodd sy’n cynnig astudiaethau achos i helpu athrawon i gyfleu heriau a rhyfeddod gwyddoniaeth fodern ar waith.
Mae’r astudiaethau achos yn dangos sut mae ymchwilwyr yn gweithio ar ffin olaf cefnforoedd dwfn y Ddaear, a’r tu hwnt iddynt. Bydd yr ymchwilwyr yn mynd ar deithiau drilio sy’n eu galluogi i edrych o’r newydd ar ein dealltwriaeth sylfaenol o sut mae’r blaned yn gweithio.
Mae’r ymchwil yn cynnwys deunyddiau esboniadol ac ymarfer, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Maent wedi’u llunio’n benodol i gynorthwyo’r rhai sy’n addysgu Daeareg yn ysgolion y Deyrnas Unedig ar Safon Uwch, UG a TGAU. Gallai hynny olygu bod daeareg yn eitem a enwir ar y cwricwlwm, ond mae hefyd yn addas ar gyfer athrawon Daearyddiaeth a Gwyddoniaeth, yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.
Dylai’r gweithgaredd hwn gael ei arwain gan athro gyda deunyddiau sydd ar gael ar wefan y prosiect.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Chris MacLeod yn macleod@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae’r adnoddau ar gael i’w lawrlwytho am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ar bob cyfrif:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.