Ewch i’r prif gynnwys

Cwisiau, teithiau a gweithgareddau ffiseg a seryddiaeth gan ddefnyddio realiti rhithwir ac estynedig.


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyd at 2 awr

Ymgollwch mewn lleoliadau anhygoel fel yr Orsaf Ofod Ryngwladol neu archwilio planedau yng nghysawd yr Haul, tyllau duon ac uwchnofâu ar y bwrdd o’ch blaen gan ddefnyddio’n hadnoddau realiti rithwir ac estynedig.

Mae Realiti Rhithwir yn caniatáu i ni archwilio mannau anhygoel a phrofi pethau rhyfeddol, gan ymgolli yn y profiad. Gallwch archwilio’r Orsaf Ofod Ryngwladol, wrth i chi gerdded o’i chwmpas, rhoi tro ar y cyfarpar ynddi a dysgu mwy am sut mae gofodwyr yn byw yn y gofod. Neu, efallai y byddwch chi am archwilio’r Diamond Light Source, peiriant gwrthdaro gronynnau yma yn y DU, nad yw’n agored i’r cyhoedd fel arfer.

Mae realiti estynedig yn caniatáu i chi weld gwrthrychau 3D rhithwir yn y byd go iawn. Yn debyg i’r Pokemon Go poblogaidd, gallwch archwilio planedau yng nghysawd yr Haul, tyllau duon, uwchnofâu a llawer mwy, sy’n ymddangos ar y bwrdd o’ch blaen chi.

Mae’r apiau ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o’r siop apiau a gellir eu defnyddio’n weithgarwch ystafell ddosbarth neu gan deuluoedd gartref. Y cyfan y mae ei angen arnoch yw ffon clyfar android neu lechen â chysylltiad â’r rhyngrwyd ac, mewn ambell achos, set pen VR. Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn cynnwys:

Sam Explores Our Universe

Mae’r ap hwn yn gweithio gyda llyfr stori rhad ac am ddim. Mae’r stori’n dilyn ein gofodwr dewr, Sam, sy’n teithio drwy ein bydysawd, gan ddysgu mwy am dyllau duon, uwchnofâu, sêr a llawer mwy. Byddwch yn gallu archwilio a rhyngweithio â modelau 3D o’r pethau a gewch yn y llyfr, fel pylsarau, galaethau a chysawd yr Haul. Gallwch edrych o gwmpas y gwrthrychau, clicio ar rannau ohonynt i ddysgu rhagor amdanynt a hyd yn oed rhyngweithio â nhw.

Dyma brosiect gan Brosiect Telesgop Faulkes a Science Made Simple, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Seryddol Frenhinol.

International Space Station (ISS) Tour VR

Archwiliwch y tu mewn i’r Orsaf Ofod Ryngweithiol yn yr ap Realiti Rhithwir hwn. Mae ffotograffau 360 gradd, a dynnwyd gan ofodwyr ar yr orsaf ofod, yn caniatáu i chi archwilio ac ymgolli yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol, gan roi cyfle i chi brofi sut beth yw bod yn ofodwr.

Gyda gwrthrychau’r tu mewn y gallwch glicio arnynt, bydd yr ap yn caniatáu i chi ddysgu am offer ar yr orsaf ofod, ynghyd â rhai o’r swyddogaethau a’r gweithrediadau arni.

Gaia Quiz

Profwch eich gwybodaeth am seryddiaeth a thaith Gaia Asiantaeth Ofod Ewrop i weld a allwch guro’r lloeren £600 miliwn. Mae tri chwis yno i brofi’ch sgiliau.

Gaia Alerts VR

Darganfyddwch ac archwiliwch yr hysbysiadau diweddaraf gan daith Gaia mewn Realiti Rhithwir. Edrychwch i’r ffurfafen a gweld yr uwchnofâu a’r sêr newidiol diweddaraf sydd wedi’u darganfod gan daith Asiantaeth Ofod Ewrop, Gaia.

VR Science Tours

Y ffynhonnell cyfleuster gwyddonol hwn yw cyfleuster gwyddor syncotron cenedlaethol y DU, yn Swydd Rhydychen. Trwy ddefnyddio paladrau dwys o olau, gall gwyddonwyr astudio strwythur a phriodoleddau amrywiaeth eang o ddeunyddiau neu lefelau microsgopig. Mae’r ap hwn yn caniatáu i chi archwilio’r cyfleuster gwyddonol mewn realiti rhithwir 360 gradd gan ddefnyddio’ch ffôn symudol a set pen VR.

Mae’r ap a’r prosiect hwn wedi’u cefnogi gan y Sefydliad Ffiseg, y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Phrosiect Telesgop Faulkes.

Supernova Simulator

Crëwch eich uwchnofa eich hun, gan ddewis pa mor fawr ydyw, pa fath o uwchnofa ydyw a phriodoleddau eraill. Yna, gwyliwch yr uwchnofa yn chwalu a dysgwch pa mor nerthol oedd eich uwchnofa. A allwch greu uwchnofa a allai ddinistrio’r Ddaear?

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

School of Physics and Astronomy sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Matthew Allen yn allenmj1@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Gall apiau ar gyfer y gweithgaredd hwn gael eu lawrlwytho o siop apiau android.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickTeuluoedd
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6
  • TickCyfnod allweddol tri - 11-14 oed, blynyddoedd 7-9
  • TickCyfnod allweddol pedwar - 14-16 oed, blynyddoedd 10-11

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickMathemateg a rhifedd
  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickCymhwysedd digidol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickAdnodd ar-lein

Diben

  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm

Rhannwch y digwyddiad hwn