Y Bydysawd yn y Dosbarth
- Ar gael ar gais
- Hyblyg
- Ar gael yn Gymraeg
Mae’r Bydysawd yn y Dosbarth yn ymestyn allan i ysgolion cynradd a chymunedau ledled Cymru, gan obeithio tanio chwilfrydedd ymhlith plant ifanc am y Bydysawd ac angerdd tuag at ddysgu.
Er y daeth cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bydysawd yn y Dosbarth i ben ym Mehefin 2018, mae’r wefan ar gael o hyd ar ffurf archif y prosiect ac mae holl weithgareddau’r dosbarth a’r deunyddiau print ar gael o hyd i’w defnyddio. Mae’r gweithgareddau wedi’u hanelu’n bennaf at ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol dau a thri, neu fel gweithgaredd i’r teulu.
Ystyriwyd technegau dysgu ar sail ymholi wrth ddylunio pob gweithgaredd ac mae’r holl wybodaeth wyddonol angenrheidiol wedi’i chynnwys, ynghyd â chyfarwyddiadau cam wrth gam, fel y gallwch gynnal y gweithgareddau heb wneud unrhyw ymchwil cefndir.
Mae’r holl weithgareddau ac adnoddau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae’r holl adnoddau ar gael ar ein gwefan. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â swyddfa allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.