Dylunydd Telesgop y Gofod
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn gweithio fel grŵp neu yn unigol i ddylunio telesgop y gofod a llunio cynnig.
Bydd angen i fyfyrwyr ddewis maint y drych, yr offerynnau, o ble byddant yn lansio’r telesgop ac ymhle y bydd yn cylchdroi a hyd yn oed y roced y byddant yn ei ddefnyddio. Ar ôl ei orffen, gallant gwblhau’r cynnig a lansio’r daith.
Mae mentro i’r gofod yn risg - a fydd y daith yn llwyddo?
Gall y gweithgaredd gael ei gwblhau ar-lein neu gan ddefnyddio’r wybodaeth yng nghanllaw’r myfyriwr a thaenlen Excel ryngweithiol.
Mae dogfennau ar wahân i fyfyrwyr ar gael ar gyfer Cyfnodau Allweddol 4 (14-16) a 5 (16+).
Cwblhewch y gweithgaredd hwn ar-lein neu lawrlwytho’r adnoddau i gynnal y gweithgaredd hwn gan ddefnyddio taenlenni excel a dogfennau y gellir eu hargraffu.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Arsyllfa Gofod Herschel sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gall y gweithgaredd hwn gael ei wneud ar-lein neu gyda dalennau excel ac adnoddau y gellir eu hargraffu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm allgymorth Ffiseg a Seryddiaeth.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.