Adnoddau Gweithdy ar Donnau Disgyrchol
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Mae’r Sefydliad Archwilio Disgyrchiant (GEI) yn rhan o gydweithrediad gwyddonol Arsyllfa Tonnau Disgyrchol yr Ymyriadur Laser (LIGO), a gyhoeddodd ganfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol am y tro cyntaf yn 2015, ganrif ar ôl i Einstein eu darogan yn gyntaf.
Mae’r gweithgareddau yn y gweithdy hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r dechnoleg a ddefnyddir mewn arsyllfeydd fel LIGO a Virgo i ganfod tonnau disgyrchol a chyfyngu ar ymyrraeth seismig yn y signalau sydd wedi’u canfod. Hefyd, bydd myfyrwyr yn gweithio gyda’r technegau dadansoddi data a ddefnyddir i nodi’r lleoliad lle y digwyddodd y tonnau disgyrchol, eu pellter o’r ddaear a maint y cyrff seryddol a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiadau.
Mae rhai o’r pynciau sy’n cael eu trafod yn cynnwys:
- priodoleddau tonnau
- trigonometreg
- ymyriad
- canfod tonnau disgyrchol
- tyllau duon.
Mae’r sgiliau a fydd yn cael eu cyflwyno yn cynnwys:
- lluniadu a dehongli graffiau
- defnyddio offer gwyddonol
- defnyddio fformiwlâu gwyddonol
- sgiliau rhifedd
- sgiliau llythrennedd.
Mynd at yr adnoddau i gynnal y gweithdy hwn.
Gallwn gyflwyno’r gweithdai hyn yn uniongyrchol drwy’r Brifysgol hefyd. I drefnu hyn, anfonwch ebost at schools@astro.cf.ac.uk.
Datblygwyd y gweithgarwch hwn mewn partneriaeth â’r Academi Awyrofod Genedlaethol ac fe’i hariennir gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â ni yn schools@astro.cf.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Mae adnoddau i gynnal y gweithgareddau o’r gweithdy hwn ar gael ar ein gwefan. Os oes angen rhagor o arweiniad arnoch neu os hoffech i ni ddod i gynnal gweithdy gyda chi, cysylltwch â ni yn:
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.