Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth Llunio fy Stryd


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outlineHyblyg

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cynnal cystadleuaeth flynyddol o’r enw Llunio Fy Stryd. Diben y gystadleuaeth yw cyflwyno dysgwyr ifanc i syniadau am gartref, lle a chymuned.

Lansiwyd y gystadleuaeth yn 2019 gan Dr Ed Green ac mae’n gystadleuaeth ddylunio genedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd yng Nghymru. Cefnogir y gystadleuaeth gan y rhwydwaith STEM, Comisiwn Dylunio Cymru a Chomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae cystadleuaeth Llunio Fy Stryd yn ymwneud â dyluniad ac ansawdd yn ein cymdogaethau, gan gyflwyno syniadau craidd am gartref, lle a'r gymuned i ddosbarthiadau o Gyfnod Allweddol 2 sy’n cymryd rhan. Mae'r fenter yn cyfuno dysgu am wyddoniaeth a thechnoleg ag ymarferion creadigol sy’n seiliedig ar ddylunio. Bydd gweithgareddau dysgu strwythuredig ac yn y rhain bydd disgyblion yn trafod pa agweddau ar y 'cartref' a’r 'stryd' sy’n creu cymdogaethau llwyddiannus. Bwriad gweithgareddau'r gystadleuaeth yw datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dylunio ac ansawdd yn yr amgylchedd adeiledig, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd mewn diwydiannau creadigol cysylltiedig. Bwriad y gystadleuaeth yw sicrhau bod disgyblion ysgolion cynradd yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle hwn, ac un o nodau penodol y rhaglen yw annog ysgolion mewn lleoliadau daearyddol anghysbell a chymunedau sydd o dan anfantais economaidd i gymryd rhan. Mae cymryd rhan yn gofyn am o leiaf ddau hanner diwrnod yn yr ysgol. Bydd holl adnoddau'r gystadleuaeth a'r deunydd ategol ar gael ar-lein. Bydd Prifysgol Caerdydd yn talu am gludiant ar gyfer y tri dosbarth buddugol i’r diwrnod wobrwyo.

Anfonwch ebost i shapemystreet@caerdydd.ac.uk os hoffech chi gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth.


Ynglŷn â'r trefnydd

Ysgol Pensaernïaeth Cymru sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Kelly Butt yn shapemystreet@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)7824 703757 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Cynulleidfa

  • TickTeuluoedd
  • TickCyfnod allweddol dau - 7-11 oed, blynyddoedd 3-6

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickCelfyddydau mynegiannol
  • TickAllgyrsiol

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickCystadleuaeth
  • TickCefnogaeth gan fyfyriwr y Brifysgol
  • TickGweithdy

Diben

  • TickDysgu allgyrsiol neu annibynnol
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn