Gweithdai Iechyd Rhyngweithiol
- Ar gael ar gais
- Hyd at 2 awr
Ein myfyrwyr meddygol sy’n cynnal y gweithdai rhad ac am ddim hyn ac maent yn cynnwys casgliad o weithgareddau ymarferol, arddangosiadau a chwisiau.
Dyluniwyd y gweithgareddau hyn i wneud dysgu’n hwyl. Bydd disgyblion ysgol gynradd yn dysgu am organau’r corff a manteision byw’n iach (e.e. ymarfer corff, deiet, peidio ag ysmygu).
Un fantais eilaidd yw y bydd disgyblion yn cael eu hannog i feddwl am yrfaoedd ym maes meddygaeth a’r gwyddorau biofeddygol.
Dyluniwyd y gweithdai ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 (blwyddyn 5 a 6). Gallwn gynnal y gweithgareddau yn eich ysgol.
Ynglŷn â'r trefnydd
Yr Ysgol Meddygaeth sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Stephen Man yn mans@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Yn gyffredinol, cynhelir y gweithdai o fis Mai tan fis Mehefin. Mae lleoedd yn brin. Cysylltwch â ni fel y gallwn ychwanegu eich manylion at y rhestr o ysgolion y bydd ein myfyrwyr meddygol yn mynd atynt.
Mae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.