Ewch i’r prif gynnwys

Brwydro Bioffilm


  • CalendarAr gael ar gais
  • Clock outline2-4 awr

Mae bioffilmiau yn gyffredin ym myd natur, a dyma'r ffordd orau o dyfu microbau.

Mae bioffilmiau’n effeithio ar sawl rhan o fywyd bob dydd.

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys pedair rhan:

  • trosolwg o’r mathau o ficrobau pathogenaidd cyffredin
  • “arbrawf” ymarferol gan ddefnyddio platiau agar a swabiau i brofi ardaloedd glân a brwnt yn yr ystafell ddosbarth ac ar eu dwylo a’u traed. Byddwn yn rhannu’r canlyniadau gyda’r ysgol yn ddiweddarach ar ffurf lluniau.
  • “Arbrawf” yn defnyddio tabledi datgelu plac i nodi bioffilmiau yn y geg.
  • Gan ddefnyddio blychau ciwbiau iâ i gynrychioli dannedd, bydd y plant yn ceisio adeiladu bioffilm, cyn ceisio "brwydro" yn ei erbyn gan ddefnyddio gynnau dŵr i ddechrau. Yna byddant yn ceisio gwneud yr un peth gan ddefnyddio brwshys dannedd. Fel hyn, bydd natur gadarn bioffilmiau yn dod i'r amlwg. Drwy'r gweithgaredd, bydd pwysigrwydd brwsio dannedd yn dod i'r amlwg hefyd.

Gallwn gyflwyno’r gweithgaredd hwn ar gais gan ysgolion cynradd neu drefnwyr digwyddiadau cyhoeddus. Rydym hefyd yn ei gynnal mewn nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ag ysgolion Prifysgol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.


Ynglŷn â'r trefnydd

Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Caerdydd sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Amy Smith yn citer@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 0129 i gael rhagor o fanylion.

Sut i gadw lle

Gallwn gyflwyno’r gweithgaredd hwn ar gais gan ysgolion cynradd neu drefnwyr digwyddiadau cyhoeddus. Anfonwch ebost atom i gael mwy o wybodaeth.


TicketMae'r gweithgaredd hwn yn rhad ac am ddim

Rydym yn dod atoch chi

Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.

Cynulleidfa

  • TickAthrawon
  • TickTeuluoedd
  • TickSylfaen - 3-7 oed, blwyddyn sylfaen 2

Mae angen goruchwyliaeth athrawon.


Themâu cwricwlwm

  • TickGwyddoniaeth a thechnoleg
  • TickGwyddorau bywyd

Math o weithgaredd

  • TickGweithgaredd
  • TickDigwyddiad
  • TickGweithdy

Diben

  • TickYmgysylltu â’n hymchwil
  • TickCefnogi themâu cwricwlwm
  • TickEhangu cyfranogiad yn y brifysgol

Rhannwch y digwyddiad hwn