Diwrnodau Ysbrydoliaeth y Brifysgol ac ymweliadau â’r campws
Nod Diwrnodau Ysbrydoli ac ymweliadau â’r campws yn annog ac ysbrydoli myfyrwyr i feddwl am eu dyfodol, gan hefyd bwysleisio pwysigrwydd gweithio’n galed ar gyfer eu TGAU.
Mae’r digwyddiadau yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr:
- ymweld â champws prifysgol
- cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol
- mynd i arddangosfa o'r pynciau sydd ar gael mewn prifysgolion lleol
- cwrdd â myfyrwyr presennol y Brifysgol
- dysgu mwy am ofynion mynediad prifysgol a llwybrau i'r brifysgol.
Fel arfer, arweinir teithiau tywys gan lysgenhadon myfyrwyr (myfyrwyr presennol ym Mhrifysgol Caerdydd) ac maent yn cynnwys y canlynol:
- taith dywys o gwmpas y campws a'r cyfleusterau
- cyflwyniad (mae gennym ddetholiad o sesiynau i ddewis o'u plith)
- sesiwn holi ac ateb
Gellir teilwra ymweliadau yn ôl anghenion eich myfyrwyr.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am Diwrnodau Ysbrydoli ac ymweliadau â’r campws: