Ap Chwaraeon
Lawrlwythwch ein ap Chwaraeon am ddim i archebu sesiynau campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chyfleusterau yn hawdd. Gall aelodau archebu ymweliadau hyd at wythnos ymlaen llaw.
Beth allwch chi ei wneud gyda'r ap:
- archebu dosbarthiadau ffitrwydd sydd ar ddod, sesiynau campfa a chyfleusterau
- rheoli a newid eich archebion
- archwilio clybiau myfyrwyr yr Undeb Athletaidd a chynghreiriau’r gemau mewn-golegol (IMG)
- darganfod ein pedwar cyfleuster chwaraeon a ffitrwydd: y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon, y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol, a Stiwdio 49
- cael y wybodaeth ddiweddaraf am gau cyfleusterau, diweddariadau pwysig, cynigion a digwyddiadau
Archebu cyfleuster, dosbarth neu sesiwn
Gallwch archebu dosbarthiadau ffitrwydd sydd ar ddod a sesiynau campfa a rheoli a diwygio eich archebion i gyd yn yr un lle.
Ar hyn o bryd gall aelodau weld a gwneud archebion drwy'r ap ar gyfer y cyfleusterau canlynol: y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon, y Ganolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol a Stiwdio 49, gan gynnwys:
- sesiynau campfa
- dosbarthiadau ffitrwydd
- cyrtiau badminton
- cyrtiau sboncen
Bydd cyfleusterau eraill ar gael yn y dyfodol.
Canslo sesiwn
- Gallwch ganslo trwy 'Fy Nghyfrif' hyd at 48 awr cyn eich sesiwn.
- I ganslo llai na 48 awr ymlaen llaw, ffoniwch neu e-bostiwch ni, gan na allwch ganslo trwy'r ap. Mae’n bosib y bydd cost am ganslo’n hwyr.
- Bydd archebion heb eu talu’n cael eu canslo'n awtomatig gan yr ap.
- Os na fyddwch yn canslo archeb na allwch fynd iddi, caiff ei marcio fel 'heb ddod'. Ni fyddwch yn cael ad-daliad, a gallai hyn effeithio ar eich gallu i archebu ymlaen llaw.
Gwybodaeth bwysig am archebu
Gallwch archebu cyfleusterau 7 diwrnod ymlaen llaw. Os nad yw sesiwn neu ddosbarth i’w weld, gall fod yn llawn neu ddim ar gael. Ni allwch archebu sesiynau campfa olynol ymlaen llaw. Os oes lle ar gael mewn sesiwn ddilynol, gallwch chi ymuno ar y diwrnod.
Rhaid i chi gwblhau Datganiad Ymrwymiad Iechyd neu Sesiwn Sefydlu Cyfleuster Ffitrwydd cyn archebu sesiynau campfa.
I gadw lle mewn cyfleusterau chwaraeon eraill, ffoniwch y cyfleuster perthnasol yn uniongyrchol. Os hoffech gadw lle mewn cyfleusterau chwaraeon eraill gallwch wneud ymholiadau drwy ffonio'r cyfleuster perthnasol.
Lawrlwythwch yr ap chwaraeon
Chwiliwch 'Cardiff University Sport' ar yr
Am y fersiwn Gymraeg:
- Agorwch y ddewislen 'byrgyr' (tair llinell lorweddol) yn yr ap.
- Dewiswch 'Fy Nghlybiau'.
- Cliciwch yr eicon '+'.
- Chwiliwch am 'Chwaraeon Prifysgol Caerdydd' a'i ddewis.
Datrys problemau
Mewngofnodi
Myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd
Bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad ebost myfyriwr/staff Prifysgol Caerdydd mewnol: ****@caerdydd.ac.uk. Dyma'r cyfeiriad ebost sydd angen i chi ei deipio. Fodd bynnag, ni fydd cyfrinair TG arferol y Brifysgol yn gweithio.
Ymwelwyr
Os nad oes gennych gyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd mewnol, bydd yr Ap Symudol yn adnabod y cyfeiriad ebost allanol a roddoch i ni pan wnaethoch chi gofrestru fel aelod am y tro cyntaf. Defnyddiwch y cyfeiriad ebost hwnnw.
Os ydych yn defnyddio'r ap am y tro cyntaf bydd angen i chi ddewis 'ailosod eich cyfrinair' neu ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i'ch cyfrif i archebu.
Mae angen i'ch cyfrinair fod o leiaf 8 nod o hyd a chynnwys:
- O leiaf un briflythyren
- O leiaf un llythyren fach
- O leiaf un rhif
- O leiaf un nod arbennig
Anfonir ebost i'ch cyfrif ebost. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr ebost oherwydd bydd angen y rhif aelodaeth arnoch i greu cyfrinair newydd.
Ar ôl i chi ddod o hyd i'ch rhif aelodaeth cliciwch ar y ddolen a fydd yn eich arwain at y dudalen mewngofnodi.
Defnyddiwch y rhif aelodaeth sydd ar yr ebost ac yna dewiswch gyfrinair newydd.
Mewngofnodwch gyda'ch e-bost a'ch cyfrinair newydd.
Os nad yw hyn yn gweithio ceisiwch ddileu'r ap a’i ailosod, yna dilynwch y cyfarwyddiadau uchod.
Ailosod eich cyfrinair
Os nad ydych yn derbyn ebost o fewn 5 munud ar ôl cyflwyno cais 'ailosod eich cyfrinair' efallai nad yw eich cyfeiriad ebost wedi'i gofrestru gyda’ch cofnod aelodaeth. Anfonwch ebost atom yn sport@caerdydd.ac.uk gyda'ch manylion er mwyn i ni ddiweddaru eich cofnod aelodaeth. Ymatebir i ymholiadau a anfonir at y cyfeiriad ebost hwn cyn gynted â phosibl.
Dim ond am 15 munud y bydd y ddolen yn yr ebost yn ddilys i ailosod eich cyfrinair. Os na fyddwch yn newid y cyfrinair o fewn y cyfnod hwn bydd angen i chi wneud cais i ailosod eich cyfrinair eto.
Gosod cyfrinair newydd
Os nad yw'r system yn derbyn eich cyfrinair newydd, gallai fod oherwydd un o’r problemau canlynol;
Mae’r ddolen yn eich ebost wedi dod i ben.
Nid yw’r meysydd 'Cyfrinair Newydd' a 'Cadarnhau Cyfrinair' yn cyfateb.
Sylwch na all Chwaraeon Prifysgol Caerdydd ailosod eich cyfrinair ar eich rhan, ac ni allwn weld eich cyfrinair i roi'r wybodaeth hon i chi. Ebostiwch ni yn sport@caerdydd.ac.uk i gael cyngor os ydych yn dal i gael anawsterau. Ymatebir i ymholiadau a anfonir at y cyfeiriad ebost hwn cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn derbyn gwall 'cyfrifon lluosog' bydd angen i chi nodi’r Rhif Aelod perthnasol ar gyfer eich cyfrif penodol. Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau, neu os oes angen i chi gwestiynu hyn, anfonwch ebost atom yn sport@caerdydd.ac.uk
Cyfraddau a chostau llogi cyfleusterau
Mae’r prisiau cyfleusterau sydd i’w gweld yn yr ap wedi'u cysylltu â'ch cyfrif, a dylent adlewyrchu eich statws aelodaeth. Os oes gennych aelodaeth ddilys a bod y gyfradd anghywir yn cael ei dangos, gallai hyn olygu nad yw eich tanysgrifiad aelodaeth wedi mynd drwodd neu nad yw wedi cysylltu â'ch cyfrif aelodaeth.
Ebostiwch lun o'ch ebost cadarnhau aelodaeth neu brawf prynu at sport@caerdydd.ac.uk fel y gallwn wirio'r manylion a chywiro'ch cofnod aelodaeth. Ymatebir i ymholiadau a anfonir at y cyfeiriad ebost hwn cyn gynted â phosibl.