Ewch i’r prif gynnwys

Caru Grangetown

Love GT girl

Lansiwyd Caru Grangetown gan Borth Cymunedol yn 2015 fel prosiect cynllunio partneriaeth blynyddol rhwng Prifysgol Caerdydd a thrigolion Grangetown.

Y syniad

I dathlu y phobl, lleoedd ac atgofion amrywiol Grangetown ac ymgysylltu â chynrychiolwyr o bob rhan o'r gymuned i archwilio posibiliadau cydweithredol a datblygu partneriaethau tymor-hir rhwng y gymuned a'r Brifysgol, sydd o fudd i'r ddwy ochr.

Beth wnaethon ni

Bu pymtheg ymchwilwyr cymunedol gwych rhwng 16 a 70+ o ystod amrywiol o gymunedau ledled Grangetown yn cyfweld â dros cant o drigolion lleol, gyda'r nod o ddarganfod yr hyn yr oedd pobl yn ei garu a'i werthfawrogi am Grangetown. Aeth yr ymchwilwyr cymunedol i'r strydoedd, ymweld â themlau, mosgiau, eglwysi, nosweithiau bingo, parciau a chanolfannau ieuenctid. Ar 9 Mai 2015, gwahoddwyd preswylwyr i ddod i ddigwyddiad i ystyried canfyddiadau'r ymchwil a datblygu amserlen o weithgareddau lleol y gallai'r Brifysgol fuddsoddi ynddynt.

Canlyniadau

Nododd aelodau'r gymuned naw thema allweddol ar gyfer buddsoddi a phartneriaethau yn y dyfodol:

  • Mannau ymunedol
  • Darpariaeth ar gyfer pobl ifanc
  • Grangetown diogel
  • Grangetown iach ac egnïol
  • Strydoedd glân a mannau gwyrdd
  • Cymuned gyfeillgar
  • Cyfathrebu heb rwystrau
  • Gweithio a siopa'n lleol
  • Parch ar y ffordd.

Yn 2015, ystyriwyd bod angen rhoi blaenoriaeth i ‘Mannau Cymunedol’ yn Grangetown. Roedd y wybodaeth a gasglwyd yn rhan o Garu Grangetown yn allweddol i sicrhau cyllid grant o fwy na £2 miliwn i ailddatblygu Pafiliwn Bowls Grangetown yng Ngerddi Grange a’i droi’n ganolfan gymunedol hygyrch o ansawdd uchel sy’n cael ei harwain gan y trigolion. Gorffennwyd y gwaith o adeiladu Pafiliwn Grange yn haf 2020, a chafodd y Pafiliwn ei agor i'r cyhoedd yn yr hydref.

Cynnydd

Mae Caru Grangetown wedi bod yn ymgynghoriad blynyddol ers 2015, ac mae adborth gan y gymuned bob tro wedi bod yn amhrisiadwy wrth fynd ati i lywio ffocws a strategaeth y Porth Cymunedol. Mae partneriaethau a gweithgareddau sy’n cyd-fynd â'r naw thema ac sy’n gysylltiedig ag ymchwil neu addysgu Prifysgol Caerdydd neu sy’n gallu gwella profiad y myfyrwyr drwy roi cyfleoedd gwerthfawr i wirfoddoli wedi cael eu hariannu neu eu cefnogi dros y blynyddoedd.

Yn ystod y pandemig COVID-19, mae Caru Grangetown wedi'i gynnal ar-lein i sicrhau nad oedd oedi i’r broses, ac mae hyn wedi ein galluogi i bennu'r themâu allweddol yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cynhaliwyd Caru Grangetown ddiwethaf ar 18 Tachwedd 2021, a dangosodd y canlyniadau fod angen rhoi blaenoriaeth i 'Strydoedd Glân a Mannau Gwyrdd' o hyd. Er hynny, gwelwyd bod 'Darpariaeth ar gyfer Pobl Ifanc' yn achosi pryder. Bydd y canlyniadau hyn yn llywio’r prosiectau rydym yn eu cefnogi i sicrhau bod anghenion cymuned Grangetown yn cael eu diwallu.

Caru Grangetown 2022

Eleni bydd Caru Grangetown yn dychwelyd yn bersonol ym Mhafiliwn Grange. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol wythnos 14-18 Tachwedd, gyda’r dathlu blynyddol a diwrnod cynllunio strategol yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.

Cymerwch ein harolwg blynyddol Caru Grangetown sy'n cau 13 Tachwedd 2022. Gallwch hefyd gofrestru i ymuno â ni ar gyfer gweithdai Love Grangetown 2022 14-19 Tachwedd 2022:

Cofrestrwch nawr