Ewch i’r prif gynnwys

Y Gyfundrefn Farnwrol yn Japan – sy’n Canolbwyntio ar Achosion Ysgariad mewn Llysoedd Teulu

Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2018
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyda siaradwr gwadd Ms Izumi Oda (Ysgolhaig y Gyfraith ar Ymweliad â Phrifysgol Caerdydd), fel rhan o Gyfres Astudiaethau Japaneaidd. Derbyniad gwin i ddilyn yn y cyntedd am 17:00.

Crynodeb

Mae'r ddarlith hon yn gyflwyniad i'r gyfundrefn farnwrol yn Japan. Mae’n seiliedig ar brofiad Izumi Oda (Ysgolhaig y Gyfraith ar Ymweliad â Phrifysgol Caerdydd) o fod yn farnwr am dros 5 mlynedd. Mae'r ddarlith yn canolbwyntio ar rôl y llysoedd teulu yn Japan, gan drafod achosion penodol (e.e. achosion ysgaru nodweddiadol yn Japan) ac yn cymharu'r gyfundrefn farnwrol yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y ddarlith yn cynnwys pedair rhan:

  1. Cyflwyniad byr i gyfundrefn gyfreithiol Japan
    • Pa fath o lysoedd sydd yn Japan?
    • Sut i fod yn farnwr yn Japan?
    • Cyflwyniad i waith Izumi Oda yn Japan
  2. Amlinelliad o rôl y llysoedd teulu yn Japan
    • Esbonio beth sy’n cael ei wneud yn y llysoedd teulu
  3. Beth yw eich barn am yr achosion hyn?
    • Siarad am achosion penodol sy’n canolbwyntio ar achosion ysgariad
  4. Cymharu'r rhain gyda'r rhai yng Nghymru a Lloe
    • Darganfod achosion diweddar yn y Goruchaf Lys yng Nghymru a Lloegr a'u cymharu ag achosion yn Japan

Bywgraffiad

Cafodd Izumi Oda ei geni yn rhaglawiaeth Gifu yn Japan a chafodd ei haddysg yng Nghyfadran y Gyfraith ym Mhrifysgol Osaka ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Kyoto. Ar ôl iddi basio Arholiad Cenedlaethol y Bar yn Japan, fe'i penodwyd yn brentis cyfreithiol yn 2011. Ym mis Ionawr 2013, cafodd ei phenodi yn farnwr ac fe'i penodwyd i Lys Dosbarth Sendai. Yna yn 2016, cafodd ei phenodi i gangen Yokosuka o fewn Llysoedd Teulu/Ardal Yokohama. Yn 2018, cafodd ei phenodi i Lys Teulu Yokohama ac ers mis Gorffennaf eleni, mae hi wedi bod yn Ysgolhaig y Gyfraith ar Ymweliad â Phrifysgol Caerdydd. O'i phrofiad fel barnwr am dros 5 mlynedd, mae hi wedi ymdrin â sawl math o achos gan gynnwys sifil (yn aelod o'r panel), teulu a phobl ifanc.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 28 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Gweld Y Gyfundrefn Farnwrol yn Japan – sy’n Canolbwyntio ar Achosion Ysgariad mewn Llysoedd Teulu ar Google Maps
2.18 in the School of Modern Languages
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn