Delweddau Ymchwil
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Dewch draw i Ddelweddau Ymchwil — arddangosfa ddifyr a diddorol sy'n dathlu ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn gynharach eleni, gwnaethon ni wahodd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o ledled y brifysgol i gyflwyno delwedd a disgrifiad byr sy'n crynhoi eu gwaith ymchwil. Yn ystod y digwyddiad hwn, cewch chi weld pob un o'r delweddau hyn mewn arddangosfa gyffrous. Hefyd, bydd gennych chi’r cyfle i gael sgwrs â chrewyr y gwaith dros luniaeth. Ar ôl i chi ddewis eich hoff ddelwedd, fe gewch chi bleidleisio, a bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno i'r ymgeiswyr buddugol.
Cadwch eich lle nawr i gael y cyfle i gael blas ar y gwaith ymchwil hynod ddiddorol sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd.
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB