Ewch i’r prif gynnwys

Sut i Osgoi Ymchwilio eich Gweithwyr

Dydd Mawrth, 20 Mehefin 2023
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Mae cael staff y gallwch ymddiried ynddi yn ased mawr i unrhyw sefydliad. Ond er nad oes unrhyw un am ddilyn y trywydd hwn, weithiau bydd sefyllfaoedd yn codi sy’n golygu bod angen rhyw fath o “ymchwiliad”. Y broblem, fodd bynnag, yw, unwaith y bydd ymchwiliad wedi ei gychwyn, mae ymddiriedaeth y ddwy ochr wedi ei golli.

Dros y flwyddyn dwetha’, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn gweithio i newid y ffordd y mae’n cynnal ei ymchwiliadau i gysylltiadau gweithwyr. O fewn chwe mis cyntaf y rhaglen, maent wedi gweld gostyngiad mawr yn nifer yr ymchwiliadau, yn ogystal â gostyngiad mewn absenoldebau salwch gweithwyr, ac arbediad ariannol sylweddol. Yn fwy na hynny, mae ymddiriedaeth a pharch yn cael eu cynnal. Yn dilyn llwyddiant y gwaith hwn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi penderfynu rhannu’r rhaglen gyda holl sefydliadau GIG Cymru. Mae ymchwil gan Ysgol Busnes Caerdydd ar y gweill ar hyn o bryd i archwilio effaith y prosesau hyn ar weithwyr a sefydliadau er mwyn llywio gwell arfer a datblygiad polisi.

Ymunwch â ni i glywed gan Andrew Cooper (Pennaeth Rhaglen Niwed i Weithwyr y Gellir ei Osgoi), Adrian Neal (Pennaeth Lles Gweithwyr) a Shelley Williams (Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu a Datblygiad Sefydliadau) a fydd yn trafod eu siwrne: pam y gwnaethant ddechrau’r gwaith hwn, beth wnaethon nhw ddysgu a pham eu bod wedi dod i’r casgliad y dylid defnyddio ymchwiliadau gweithwyr fel y dewis olaf ar bob achlysur.

Gweld Sut i Osgoi Ymchwilio eich Gweithwyr ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education