ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Ymdopi â hediadau’n cael eu canslo mewn byd ar ôl COVID: Beth yw fy hawliau fel cwsmer?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu canfyddiadau prosiect ar hawliau defnyddwyr ac achosion o ganslo hediadau o ganlyniad i COVID. Yn dilyn hynny bydd cyflwyniadau gan arbenigwyr hawliau defnyddwyr ar yr hyn y gall teithwyr ei wneud pan fydd eu hediadau'n cael eu canslo, a ffyrdd posibl o geisio iawndal. Gall cynrychiolwyr y cwmnïau awyrennau rannu sut maen nhw'n ymateb i'r argyfwng hwn a rhoi trosolwg o'r newidiadau diweddar i bolisïau ynghylch canslo hediadau. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i’n panel. Rhagwelir y bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth well o'u hawliau fel teithiwr awyr a sut mae'r cwmnïau awyrennau yn ymdrin â'r argyfwng, a fydd yn gwneud teithio yn brofiad llai brawychus felly.
Am beth mae’r digwyddiad?
O ganlyniad i bandemig COVID-19 cafodd hediadau eu canslo ar raddfa fawr, a hyd yn oed yn y cyfnod adfer hwn, mae teithwyr yn dal i wynebu aflonyddwch ac yn dioddef oherwydd hynny (e.e. siom, straen, costau nad oes modd eu hadennill, colli gwyliau). Mae ein hymchwil, a ariennir gan LAWPL, yn datgelu bod ymwybyddiaeth isel ymhlith cwsmeriaid o'u hawliau fel defnyddwyr a'r ffyrdd o gael iawndal. Canfuwyd bod defnyddwyr yn gyffredinol yn ymddiried mewn cwmnïau awyrennau i ofalu amdanynt, ond bod rhai defnyddwyr wedi cael profiadau negyddol wrth hawlio ad-daliad a’u bod wedi cael eu hannog i dderbyn talebau teithio neu aildrefnu’r hediad. Oherwydd y diffyg gwybodaeth am sut i hawlio ad-daliadau, mae rhai wedi cael eu gadael ar eu colled.
Er bod cyfyngiadau teithio wedi'u diddymu ac mae’r rheoliadau teithio wedi mynd yn llai cymhleth, mae achosion o ganslo hediadau’n parhau i fod yn broblem fawr i lawer o deithwyr. Mae'n hanfodol i gwsmeriaid a chwmnïau awyrennau gael deialog ar y mater hwn. Bydd y digwyddiad hwn, sydd wedi'i drefnu ar gyfer y cyhoedd, yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n bresennol ddeall eu hawliau fel teithwyr awyr ac i gwmnïau hedfan estyn allan at ddefnyddwyr.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Carmela Bosangit, Uwch-ddarlithydd Marchnata ym Mhrifysgol Caerdydd
Sara Drake, Darllenydd yng Nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Chyfraith Cystadleuaeth yr UE ym Mhrifysgol Caerdydd
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i oedolion o’r cyhoedd.
O ddiddordeb i:
Mae hyn o ddiddordeb arbennig i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan achosion o ganslo hediadau o ganlyniad i COVID-19 a'r rhai sydd â diddordeb mewn cyfraith defnyddwyr.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU