ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Archwilio effeithiau lleol posibl polisïau i gefnogi ffermio yn y dyfodol yng Nghymru: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy o’r cam dylunio polisïau i'r cam gweithredu.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd y digwyddiad Zoom hwn yn canolbwyntio ar elfennau allweddol Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru. Yn dilyn trafodaeth banel agoriadol, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael eu gwahodd i drafod eu barn ar y pynciau uchod mewn ystafell grŵp bach, lle bydd hwylusydd yn gwneud cofnod o’r pynciau allweddol a drafodir. Bydd sesiwn lawn i ddilyn, lle bydd panelwyr yn ymateb i'r pwyntiau allweddol sy’n codi yn nhrafodaethau'r ystafelloedd grŵp bach - dyma fydd y prif ddigwyddiad. I gloi’r digwyddiad bydd sesiwn holi ac ateb a chasgliadau terfynol gan y Cadeirydd.
Am beth mae’r digwyddiad?
Bydd yn ystyried amcanion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a heriau allweddol sy’n ymwneud â’r Cynllun, a’r broses o ddatblygu polisïau ers yr ymgynghoriad cyntaf yn 2018 (Brexit a’n Tir). Nod y sesiwn yw cynhyrchu ymateb i'r ymgynghoriad cyfredol ar y Cynllun, yn seiliedig ar y drafodaeth a chyfraniadau'r rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithdai.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Lydia Beaman, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol Caerdydd
Aimee Morse, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw
Theo Lenormand, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad y Cynllun. Bydd cyfle i’r rhai sy’n bresennol drafod eu barn ar y cynnig ac i gyfrannu at ymateb i'r ymgynghoriad a fydd yn cael ei ddatblygu o nodiadau a gymerir drwy gydol y sesiwn.
O ddiddordeb i:
Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i'r rhai sy'n gweithio yn y sector rheoli tir a'r rhai sy'n datblygu polisïau sy'n gysylltiedig â'r sector hwn.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA