Ewch i’r prif gynnwys

Mantais frodorol? Archwilio aceniad a goslef Dysgwyr y Gymraeg - Jack Pulman-Slater

Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2023
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Serch yr anawsterau y gwyddys y mae dysgwyr y Gymraeg yn eu profi gydag aceniad a goslef y Gymraeg, mae'r sylw a hawlir ganddo wedi ei gyfyngu i alwadau am fwy o sylw ymchwiliol ac arddysgegol arno. Esgeulusir aceniad a goslef o fewn y dosbarth yn bennaf yn sgil cred gyffredin, ond heb ei phrofi, fod gan ddysgwyr a ddeuai o Gymru nodweddion Cymraeg yn rhan o'u lleferydd Saesneg. Wrth gaffael y Gymraeg fel iaith, felly, gallant drosglwyddo'r elfennau hyn i'r ail iaith. Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn rhannu canfyddiadau empirig yr astudiaeth seinegol gyntaf a geir ar aceniad a goslef dysgwyr y Gymraeg. Edrychaf ar bresenoldeb a sgôp unrhyw "fantais frodorol" drwy dynnu ar ddulliau acwstig.

Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn