Ewch i’r prif gynnwys

Safbwyntiau ar Naratifau Bywyd Graffig

Dydd Iau, 19 Mai 2022
Calendar 17:30-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Merged portraits of Dr Lisa El Refaie & Amrutha Mohan

Gweminar fel rhan o thema ymchwil Hanes a Threftadaeth yn yr Ysgol Ieithoedd Modern gyda siaradwyr gwadd Dr Lisa El Refaie: Darllenydd, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth (Prifysgol Caerdydd) ac Amrutha Mohan, Ymgeisydd PhD, Prifysgol Kerala, India (Ysgolhaig Gwadd Rhithwir ym Mhrifysgol Caerdydd).

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gwestiynau ynghylch plentyndod, bod heb blant a chynrychiolaeth mewn naratifau bywyd graffig. Bydd Dr El Rafaie yn ystyried  trosiadau gweledol (ar lafar) ar gyfer (an)ffrwythlondeb mewn comigau hunangofiannol merched, tra bydd Amrutha yn rhoi trafod y ffyrdd y mae'r plentyn yn cael ei ddychmygu a'i adeiladu mewn naratifau bywyd graffig.


Dr Lisa El Refaie: ‘Metaphors of (in)fertility in women’s autobiographical comics’


Crynodeb

Yng nghymdeithasau defnyddwyr y Gorllewin, honnir bod merched yn rhydd i wneud eu dewisiadau eu hunain, ond ystyrir o hyd fod merched sy’n ddi-blant yn anwirfoddol yn wrthrychau truenus iawn, ac mae'r rhai sydd heb blant yn wirfoddol yn cael eu condemnio a'u gwthio i'r cyrion. Adlewyrchir yr agweddau hyn yn y trosiadau mwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn perthynas â (an)ffrwythlondeb, sy'n ei bortreadu fel taith, fel brwydr, fel ras yn erbyn amser, yn loteri, ac yn fuddsoddiad. Yn fy sgwrs, byddaf yn archwilio trosiadau gweledol (ar lafar) am (an)ffrwythlondeb mewn comigau hunangofiannol menywod, gan ddadlau y gallent naill ai atgyfnerthu neu herio ideolegau dominyddol o blaid cael plant.

Bywgraffiad
Mae Elisabeth (Lisa) El Refaie yn Ddarllenydd mewn Cyfathrebu Gweledol yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ffurfiau gweledol ac amlfodd o naratif a rhethreg. Hi yw awdur Autobiographical Comics: Life Writing in Pictures (2012) and Visual Metaphor and Embodiment in Graphic Illness Narratives (2019). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi datblygu a chynnal gweithdai sy'n annog pobl i rannu eu barn a'u hemosiynau ar bynciau iechyd sensitif trwy greu eu trosiadau gweledol eu hunain.


Amrutha Mohan: ‘Imag(in)ed Childhood: Representation of The Child in Graphic Narratives’

Crynodeb

Mae adeiladwaith testunol, cymdeithasol a diwylliannol plentyndod a phresenoldeb cyson yr adroddwr o blentyn mewn naratifau bywyd a genres llenyddol eraill wedi bod yn destun dadleuon academaidd erioed. Mae'r cyfrwng graffeg yn cynnig fframwaith amrywiol unigryw y gellir eu defnyddio i ddelweddu byd mewnol ac allanol y canolbwyntiwr/adroddwr o blentyn. Mae'r plentyn yn ymddangos fel trosiad o'r gorffennol a hefyd yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y gorffennol a'r dyfodol. Yn y rhan fwyaf o'r atgofion graffig sy'n ymdrin ag argyfwng/gwrthdaro, mae'r plentyn nid yn unig yn ddioddefwr diniwed - ond hefyd yn dyst, yn sylwedydd craff ac yn dempled lle y mae profiadau trawmatig yn cael eu harysgrifio. Maent hefyd yn adlewyrchu cymhlethdodau a thueddiadau byd oedolion ac yn aml yn cynnig gwerthusiad o'r pethau hyn. Trwy adrodd yn ôl am luosogrwydd profiadau plentyndod, mae'r adroddwr o oedolyn yn ymgysylltu'n barhaus â gwaith cof. Felly, yn fwy na chynrychioli atgofion a phrofiadau goddrychol yr awdur, mae ffigwr y plentyn yn naratifau bywyd graffig yn gosod cwestiynau perthnasol ynglŷn â ffyrdd o gofio a chyfleu’r gorffennol. Mae'r ymchwil felly yn ceisio archwilio'r ffyrdd y mae ffigwr y plentyn yn cael ei ddychmygu ac yn cael ei gynrychioli mewn naratifau bywyd graffig dethol.

Bywgraffiad
Mae Amrutha Mohan yn ymgeisydd PhD yng Ngholeg SN, Prifysgol Kerala, (Kerala) India.  Ar hyn o bryd mae hi’n Ysgolhaig Gwadd Rhithwir yn Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd. Mae prosiect ei doethuriaeth yn archwilio sut y cynrychiolir cof a thrawma mewn comigau Asiaidd. Mae hi wedi cwblhau ei BA ac MA mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Kerala a hefyd wedi pasio Prawf Cymhwysedd Cenedlaethol UGC ar gyfer Darlithyddiaeth. Mae ei diddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys astudiaethau gofodoldeb, astudiaethau comigau, cof, trawma ac effaith, ysgrifau bywyd ac ati.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 20 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn