Ewch i’r prif gynnwys

Manga, Anime a Chrefydd yn Japan (Yr Athro Elisabetta Porcu, Prifysgol Cape Town)

Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2019
Calendar 16:15-17:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Manga, Anime and Religion in Japan

Nid oes modd diystyried manga ac anime fel ffenomen ddiwylliant-torfol fyd-eang wrth geisio deall diwylliant a chymdeithas Japan. Beth sy’n digwydd pan mae crefyddau yn Japan yn eu defnyddio? Pam a sut mae grwpiau crefyddol yn trosi eu dysgeidiaethau ar ffurf manga? Sut mae eu sylfaenwyr yn cael gwedd newydd drwy’r cyfryngau tra phoblogaidd hyn? Beth sydd yn y fantol pan mae crefyddau’n croesi ffiniau diwylliant poblogaidd gyda’r nod o gadw eu cysylltiad â chymdeithas a rheolaeth dros eu hawdurdod? Gan ganolbwyntio ar manga ac anime sy’n cael ei gynhyrchu gan sefydliadau crefyddol yn Japan, yn y ddarlith hon byddwn yn ystyried y cwestiynau hyn a’r ffyrdd y mae sefydliadau crefyddol yn ceisio trosglwyddo eu dysgeidiaethau a’u rôl yn y gymdeithas drwy iaith a dulliau sy’n cael eu benthyg o gylchoedd seciwlar mwy llwyddiannus, sef diwylliant poblogaidd a brandio yn yr achos hwn.

Gweld Manga, Anime a Chrefydd yn Japan (Yr Athro Elisabetta Porcu, Prifysgol Cape Town) ar Google Maps
5.18
John Percival Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn