Ewch i’r prif gynnwys

Jeremy Miles: Brexit a Datganoli

Dydd Llun, 17 Mehefin 2019
Calendar 09:30-12:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Brexit and devolution

Dwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bapur polisi ar ‘Brexit a Datganoli’, gan ddadlau y byddai i’r Deyrnas Gyfunol adael yr Undeb Ewropeaidd arwain at newidiadau sylweddol yn y ffordd mae’r DG yn gweithio. Un peth fyddai'n deillio o'r newidiadau hyn fyddai creadigaeth Cyngor Gweinidogion y DG newydd a symudiad tuag at ddull o weithio lle rhannir llywodraethu rhwng y pedair gweinyddiaeth.

I gofnodi dwy flynedd ers cyhoeddi ‘Brexit a Datganoli’, bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn cynnal trafodaeth gydag anerchiad gan Jeremy Miles AC, sef Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog dros Brexit.

Yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fydd yn cadeirio’r digwyddiad. Bydd Akash Paun ac Aron Cheung o’r Sefydliad Dros Lywodraeth yno hefyd, yn ogystal â phanel o arbenigwyr a sesiwn holi ac ateb yn cynnwys Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yr Athro Daniel Wincott a Dr Ludivine Petitin. Bydd craffu manwl yma ar effaith Brexit ar gyfansoddiadau Cymru a’r DG.

Ymunwch â ni i drafod y newidiadau sylfaenol gallai Brexit eu hachosi i’r DG, a sut gallai pwerau datganoledig eu rhoi ar waith yn y dyfodol.

Ceir croeso i bawb i’r digwyddiad hwn sydd am ddim, a darperir lluniaeth.

Adeilad y Pierhead
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Rhannwch y digwyddiad hwn