Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae’n bosibl i sylfaen y dystiolaeth lywio’r broses benderfynu clinigol wrth drin ADHD yn ffarmacolegol?

Dydd Mercher, 25 Mehefin 2025
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Clinical spotlight with professor Samuele Cortese banner
‘Dan y Chwyddwydr Clinigol’ yw ein cyfres seminar chwe-misol wedi’i hanelu at ymarferwyr sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl ieuenctid.
Disgrifiad o’r cyflwyniad:

Mae triniaeth ffarmacolegol yn elfen bwysig o'r dull amlfodd o reoli ADHD. Mae amrywiaeth yn y ffordd y mae clinigwyr yn defnyddio meddyginiaeth ar gyfer ADHD. Yn ystod fy nghyflwyniad, bydda i’n trafod a yw’r dystiolaeth bresennol, sy’n ymwneud yn bennaf â metaddadansoddi dau ymyriad, metaddadansoddi triniaethau lluosog, metaddadansoddiadau dos-ymateb ac adolygiadau ymbarél, yn gallu llywio sut mae ADHD yn cael ei drin yn ffarmacolegol a pharhau i gefnogi’r broses benderfynu ar y cyd, ac i ba raddau. Bydda i hefyd yn trafod bylchau ac anghenion yn y dyfodol yn y maes.

Ynglŷn â’r siaradwr

Un o Athrawon Ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ac Athro Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgol Southampton yw Samuele Cortese. Mae hefyd yn Ymgynghorydd Anrhydeddus ar gyfer Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Gofal Iechyd Hampshire ac Ynys Wyth yn y DU ac yn Athro Niwroseiciatreg Plant ym Mhrifysgol Bari yn yr Eidal. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anhwylderau niwroddatblygiadol, yn benodol ADHD, ac mae wedi cyfrannu'n helaeth at y maes, gyda dros 450 o gyhoeddiadau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae wedi sicrhau mwy na £23 miliwn mewn cyllid ymchwil yn ymgeisydd arweiniol neu’n gyd-ymgeisydd. Mae wedi’i restru ymhlith y nifer fach iawn o wyddonwyr blaenllaw ym maes seiciatreg a seicoleg (Web of Science) ers 2022. Mae hefyd wedi’i enwi’n arbenigwr blaenllaw mewn ADHD (Expertscape). Ar hyn o bryd, Samuele yw cadeirydd y Grŵp Canllawiau ADHD Ewropeaidd.

Rhannwch y digwyddiad hwn