Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Optometreg Tu Mewn Tu Allan (OUTsideIN)

Outside in project
Outside in

Newid amgylcheddau ystafell ddosbarth i'w gwneud yn debycach i'r awyr agored i leihau golwg byr mewn plant

Y syniad


Prosiect dan arweiniad yr Athro Jeremy A. Guggenheim o Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Caerdydd i brofi'r syniad y bydd newid amgylcheddau ystafell ddosbarth i'w gwneud yn debycach i'r awyr agored yn lleihau nifer yr achosion o olwg byr (myopia).

Gobaith y tîm o Gaerdydd, Bryste ac Iwerddon yw cael mewnbwn plant, rhieni ac athrawon i helpu i ddylunio amgylcheddau ystafell ddosbarth gwahanol. Rhaid i'r rhain fod yn swyddogaethol ac yn ymarferol a pheidio â chael effeithiau andwyol ar ddysgu.

Byddai plant ym Mlwyddyn 3 i Flwyddyn 5 (7 - 10 oed) yn debygol o elwa fwyaf o ymyriad i leihau datblygu golwg byr.

Symud Ymlaen


Cyflwynwyd y cyfle ym Mhanel Cynghori Ysgolion y Porth Cymunedol ym mis Mehefin ac, o ganlyniad, cytunodd Ysgol Gynradd Grangetown i fod yn bartner yn y prosiect ac ysgrifennu llythyr o gefnogaeth.

Bydd y prosiect, os caiff ei ariannu, yn cynnal treialon 6 mis ac yna treialon 2-3 blynedd i asesu derbynioldeb ac effeithiolrwydd y dyluniadau ystafell ddosbarth a ddatblygwyd.

Y Camau Nesaf


Yn aros am ganlyniad y cais am gyllid