Ewch i’r prif gynnwys

Ein gwaith

Ein nod yw datblygu partneriaethau hirdymor, cyfartal, er budd i bawb, gyda thrigolion Grangetown a'r sefydliadau sy'n eu gwasanaethu. Yn benodol, rydym am:

  • fuddsoddi mewn naw thema gymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd wedi eu dewis gan gymunedau Grangetown
  • darparu mynediad hawdd i gymunedau Grangetown ac aelodau Prifysgol Caerdydd weithio gyda'i gilydd
  • cynyddu ymwybyddiaeth o'r sgiliau ac adnoddau sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer cymunedau Grangetown
  • ymgysylltu â thrigolion Grangetown er mwyn canfod ymchwil dylanwadol o'r radd flaenaf, cyfleoedd dysgu ac addysgu i Brifysgol Caerdydd sy'n diwallu anghenion lleol a helpu i wneud Grangetown yn lle gwell byth i fyw ynddo.

Rydym hefyd yn y broses o ddatblygu sylfaen ffisegol yng Ngherddi Grange a fydd yn dod â Phrifysgol Caerdydd i mewn i'r gymuned.

Ein hegwyddorion

  • partneriaethau hirdymor
  • mentrau dan arweiniad y gymuned
  • cynyddu cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau a phrosiectau presennol
  • cyfuno arbenigedd neu adnoddau'r gymuned a'r Brifysgol
  • canlyniadau caadarnhaol ac ymarferol ar amrywiaeth o lefelau.