Ewch i’r prif gynnwys

Effaith ein prosiectau

Grangetown sign
Grangetown sign created by residents.

Mae'r Porth Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn helpu i wneud Grangetown yn lle gwell byth. Gwneir hynny drwy gyfrwng ymchwil o'r radd flaenaf, yn ogystal â chyfleoedd addysgu a gwirfoddoli sy'n ymateb i anghenion a phroblemau lleol.

  • 23 'live' teaching projects
  • 133 student volunteers
  • 16 Cardiff University Academic Schools involved

Prosiect Gardd Gymunedol

Rydym wedi gwneud Grangetown yn lle fwy gwyrdd gan:

  • sefydlu partneriaethau gydag ysgolion yr ardal leol er mwyn rhoi mynediad at le gwyrdd diogel i blant cael dysgu
  • galluogi tyfiant gardd gymunedol yn uniongyrchol.

Mwy o wybodateh am y prosiect Gardd Gymunedol.

Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange

Rydym wedi rhoi llais i bobl ifanc ac wedi darparu profiadau a chyfleoedd newydd iddynt drwy lansio fforwn ieuenctid a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mwy o wybodaeth am Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange

Iechyd Meddwl a Lles

Rydym wedi darparu lleoliad sy'n dod â chymorth iechyd meddwl at galon gymuned Grangetown.

Mwy o wybodaeth am ein prosiectau iechyd meddwl a lles

Cyngor gyrfaoedd

Rydym wedi gweithio'n agos â phartneriaid a chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn gwneud Addysg Uwch a gyrfaoedd Addysg Uwch yn fwy hygyrch i drigolion Grangetown.

Mwy o wybodaeth am Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl

Ymgyrch Siopa'n Lleol

Rydym wedi annog pobl i siopa yn Grangetown ac i gefnogi perchnogion busnes lleol gan:

  • lansio'r Fforwm Busnes cyntaf yn Grangetown, yn rhoi'r cyfle i fusnesau lleol gymryd mantais o gyfleoedd rhwydweithio, hyfforddiant ar-lein a chyngor busnes
  • datblygu a lansio Marchnad y Byd Grangetown, yn rhoi'r cyfle i entrepreneuriaid a pherchnogion busnes i ddangos eu cynnyrch i dros 200 o ymwelwr
  • creu map Grangetown - cyfeirlyfr lleol o holl fusnesau Grangetown.

Mwy o wybodaeth am ein prosiectau Gweithio a Siopa yn Grangetown